Carwyn Eckley yn ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd 2020-21

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Carwyn Eckley ydy Prifardd Eisteddfod yr Urdd

Carwyn Morgan Eckley o Benygroes, Dyffryn Nantlle ydy Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2020-21.

Mae'r bardd ifanc wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair deirgwaith yn y gorffennol.

Dywedodd y beirniaid fod gwaith Carwyn - gyda'r thema tlodi yn ganolog - yn "gerdd grefftus i'n cywilyddio".

Matthew Tucker o Bontarddulais ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, a Caryl Bryn Hughes o Borth Amlwch, Ynys Môn yn drydydd.

Trwy gydol yr wythnos hon mae Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn gwobrwyo'r gwaith cyfansoddi a chreu buddugol ddaeth i law yn 2020.

Bu'n rhaid gohirio'r Eisteddfod yn Ninbych y llynedd oherwydd pandemig Covid-19.

"Thema'r gerdd ydi tlodi plant, a thlodi plant yng Nghymru yn benodol," meddai Carwyn.

"Y rheswm mai 'Pump' oedd fy ffugenw oedd bod pum golygfa o fewn y gerdd, sy'n edrych ar wahanol agweddau o dlodi plant a lle 'da ni arni yng Nghymru ar hyn o bryd.

"O'n i'n teimlo fod o'n fater pwysig i sgwennu amdano, o gysidro pan sgwennwyd y gerdd fod tua thraean o blant Cymru yn byw mewn tlodi."

Ffynhonnell y llun, Urdd

Mae Carwyn, 25, bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, lle mae'n gweithio fel newyddiadurwr i adran rhaglenni Cymraeg ITV Cymru.

Dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth yn Ysgol Dyffryn Nantlle dan arweiniad ei athrawes Eleri Owen.

Aeth ymlaen i astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ble dysgodd i gynganeddu, ac mae'n aelod o dîm buddugol Talwrn y Beirdd eleni, Dros yr Aber.

Roedd gofyn i gystadleuwyr gyfansoddi cerdd neu gerddi caeth neu rydd ar y testun 'Ennill Tir'.

Yn ôl y beirniaid, Eurig Salisbury a Peredur Lynch daeth 13 cerdd i law, gyda thri ymgais yn dod i'r brig.

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Tucker a Caryl Bryn Hughes ddaeth yn ail a thrydydd yn y gystadleuaeth

'Dawn cynghanedd feistrolgar'

Dywedodd y beirniaid fod awdl fuddugol Carwyn yn "gerdd grefftus i'n cywilyddio yn haeddu clod a Chadair yr Eisteddfod".

"Nid ar chwarae bach mae ysgrifennu awdl, ac mae hon yn awdl fedrus, feiddgar a dyfeisgar," medden nhw.

"Mae'n defnyddio ystod o wahanol fesurau yn effeithiol iawn ac mae ganddo ddawn cynghanedd feistrolgar.

"Man cychwyn y bardd yw'r ffaith fod traean o blant Cymru'n byw mewn tlodi heddiw, ac yn drwm ei lach ar eiriau gweigion y gwleidyddion.

"Lluniodd ddarlun teimladwy o fachgen ifanc a'i fam, yn ceisio dygymod â thlodi."

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn yn ennill Cadair hardd wedi'i cherfio gan y saer Rhodri Owen

Mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, bydd y tri a ddaeth i'r brig yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yng Nghwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Bydd Cwrs Olwen yn cynnig penwythnos cyfan o weithdai ysgrifennu creadigol, cymdeithasu ag awduron ifanc eraill, a dysgu am y byd llenyddiaeth a chyhoeddi.

Ddydd Gwener, bydd Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi 'Deffro', cyfrol y cyfansoddiadau ar ei newydd wedd wedi ei roi at ei gilydd gan ddau o gyn-enillwyr yr Eisteddfod.

Am yr ail flwyddyn, oherwydd y pandemig, bu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020, ac fe drefnwyd Eisteddfod T unwaith eto eleni i lenwi peth o'r bwlch.