Miriam Elin Sautin yn ennill Medal Ddrama'r Urdd
- Cyhoeddwyd
Miriam Elin Sautin o Lanbedrog ym Mhen Llŷn yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2020-21.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor Pwllheli, cwblhaodd radd mewn Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Durham.
Treuliodd ddwy flynedd yn dysgu Saesneg ym Mhrifysgolion Limoges a Lyon yn Ffrainc, lle roedd hi hefyd yn cynnig gwersi ysgrifennu creadigol.
Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Lenyddiaeth Cymru.
Trwy gydol yr wythnos hon mae Eisteddfod yr Urdd yn gwobrwyo'r holl waith cyfansoddi a chreu buddugol ddaeth i law yn 2020.
Bu'n rhaid gohirio'r Eisteddfod yn Ninbych y llynedd oherwydd pandemig Covid-19.
Bydd Miriam yn cael y cyfle i ddatblygu ei gwaith buddugol gyda Theatr Genedlaethol Cymru, derbyn hyfforddiant pellach gyda'r BBC, datblygu syniadau gyda Choleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â threulio amser gydag S4C a chael cyflwyniad i ysgrifennu ar gyfer y teledu.
Carys Mair Bradley-Roberts o Gaerdydd oedd yn ail yn y gystadleuaeth, ac Elis Siôn Pari o Aberdaron ddaeth yn drydydd.
Mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, bydd y tri a ddaeth i'r brig yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yng Nghwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Bydd Cwrs Olwen yn cynnig penwythnos cyfan o weithdai ysgrifennu creadigol, cymdeithasu ag awduron ifanc eraill, a dysgu am y byd llenyddiaeth a chyhoeddi.
Roedd gofyn i gystadleuwyr gyfansoddi drama a fyddai'n cymryd rhwng 40-60 munud i'w pherfformio.
Yn ôl y beirniaid Llinos Gerallt a Sian Naiomi, daeth chwe drama i law gyda'r dramodwyr yn ysgrifennu'n "gyfoes a pherthnasol".
Gosododd y beirniaid y gwaith i ddau ddosbarth, gyda phedwar darn yn y dosbarth cyntaf. Daeth Miriam i'r brig gyda "drama afaelgar a safonol".
Dywedodd y beirniad Llinos Gerallt: "Fe hawliodd y ddrama hon ein sylw o'r dudalen gyntaf.
"Mae'r berthynas rhwng dwy ffrind yn gymhleth a chyfoethog, gyda'r plot yn datblygu'n gelfydd wrth inni dyrchu i'w gorffennol.
"Drama sy'n llawn dirgelwch ac amwynder gyda diweddglo cryf. Mae cymhlethdod a blerwch bywyd i gyd yma.
"Mae'r dramodydd hefyd yn fardd, ond yn gofalu nad yw'r barddoniaeth yn tarfu ar lif a thempo'r ddrama."
Am yr ail flwyddyn, oherwydd y pandemig, bu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020, ac fe drefnwyd Eisteddfod T unwaith eto eleni i lenwi peth o'r bwlch.
Bydd enillydd y Gadair yn cael ei gyhoeddi nos Iau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2021