Emiliano Sala: Trefnydd y daith yn gwadu peryglu'r awyren

  • Cyhoeddwyd
David HendersonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r dyn sydd wedi ei gyhuddo o drefnu'r daith awyren roedd Emiliano Sala arni pan fu farw wedi dweud mai'r peilot oedd yn gyfrifol am ddiogelwch.

Bu farw'r pêl-droediwr Sala a'r peilot David Ibbotson pan blymiodd eu hawyren i'r môr ym mis Ionawr 2019.

Mae David Henderson, 67, wedi cyfaddef trefnu'r daith ond mae'n gwadu peryglu diogelwch awyren.

Dywedodd fod Mr Ibbotson wedi "cymryd cyfrifoldeb dros bopeth yn ymwneud â'r daith".

Fe ddechreuodd Mr Henderson, sy'n byw yn Hotham, Sir Efrog, gyflwyno tystiolaeth amddiffyn ei hun i Lys y Goron Caerdydd ddydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Sala ei ddarganfod, ond doedd dim modd dod o hyd i Mr Ibbotson, 59, o Crowley, Sir Lincoln

Dywedodd Mr Henderson nad oedd unrhyw reswm iddo gredu nad oedd Mr Ibbotson yn gymwys i hedfan yr awyren, ac mai o dan reolaeth Mr Ibbotson oedd yr awyren yn ystod y daith.

Dywedodd perchennog yr awyren, Fay Keely, ei bod hi wedi rhybuddio Mr Henderson na ddylai Mr Ibbotson hedfan yr awyren ar ôl i'r Awdurdod Hedfan Sifil dynnu ei sylw at ddwy achos pan dorrodd Mr Ibbotson y rheolau wrth hedfan.

Mae'r llys eisoes wedi clywed nad oedd gan Mr Ibbotson drwydded peilot masnachol, yr hawl i hedfan gyda'r nos, na chaniatâd i hedfan yr awyren Piper Malibu.

Clywodd y llys fod Mr Ibbotson wedi galw Mr Henderson cyn y daith i ddweud bod problem gyda phedal ar yr awyren, bod olew yn gollwng, a'i fod yn meddwl ei fod wedi clywed "bang" wrth lanio.

Ond yn ôl Mr Henderson roedd peiriannydd yna wedi cadarnhau bod yr awyren yn iawn i'w hedfan.

Dywedodd Mr Henderson bod y digwyddiad wedi cael effaith wael iawn arno, a'i fod wedi dioddef o orbryder ers iddo ddigwydd.

"Galla i ddim treulio awr heb feddwl am y peth", meddai.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig