Perchnogion cŵn cyfnod clo yn esgus eu bod yn gŵn strae

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ci mewn canolfan achub
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai perchnogion yn ceisio gwerthu'r cŵn ar-lein cyn eu cymryd at ganolfan achub

Mae'r pandemig wedi arwain at gynnydd "digynsail" yn nifer y 'cŵn strae ffug', lle mae pobl brynodd cŵn yn ystod y cyfnod clo yn esgus eu bod yn gŵn strae er mwyn cael gwared ohonyn nhw.

Wrth i gŵn coll ffug lenwi canolfannau achub, mae gweithwyr yn poeni bod cŵn strae go iawn yn gorfod cael eu difa.

Mae rhai perchnogion yn ceisio gwerthu'r cŵn ar wefannau fel Gumtree rhai ddiwrnodau cyn eu cymryd at ganolfan achub fel cŵn strae.

Bydd perchnogion naill ai yn galw gweithwyr achub ac esgus fod eu ci yn gi strae, neu yn cymryd yr anifail at ganolfan achub a dweud eu bod wedi dod o hyd iddo.

Yn ôl gweithwyr achub, fe geisiwyd werthu Maggie ar Gumtree am £500 ddiwrnod cyn iddi gael ei chyflwyno fel 'ci strae ffug'.

Disgrifiad,

Mwy o anifeiliaid strae 'ffug' ar ein strydoedd

Dywedodd Sara Rosser, Pennaeth Lles yn Hope Rescue ym Mhontyclun: "Mae'n rhaid i ni gymryd cŵn strae, felly mae cŵn strae ffug yn cael eu blaenoriaethu dros gŵn sydd wir wedi cael eu gadael ar ôl.

"Mae'r niferoedd yn wirioneddol digynsail ar hyn o bryd.

"Byswn i'n dweud ein bod ni wedi cael pump yn yr wythnos ddiwethaf rydyn ni'n sicr sy'n gŵn strae ffug, fe allai'r rhif fod lot yn uwch," meddai.

"Mae'r canolfannau achub yn llawn, ac wedyn mae'r milfeddygon yn cysylltu â ni yn gofyn a fyddai'n bosib i ni gymryd cŵn maen nhw'n ofni bydd yn rhaid eu rhoi i lawr."

Disgrifiad o’r llun,

Sara Rosser o ganolfan achub Hope Rescue

Dywedodd gweithwyr canolfannau achub cŵn eu bod yn wynebu "amseroedd enbyd" a bod canolfannau wedi cyrraedd "pwynt argyfwng" oherwydd y pandemig.

Mae canolfannau yn llawn oherwydd y cynnydd yn y nifer o bobl wnaeth brynu cŵn yn ystod y cyfnod clo, cyn sylweddoli nad oedd modd iddynt ofalu amdanyn nhw wrth i gyfyngiadau codi.

Dywedodd y gweithwyr ei fod ambell waith yn dod i'r amlwg fod cŵn wedi cael eu rhoi ar werth ar wefannau fel Gumtree ond heb gael eu prynu, ac felly mae'r perchnogion yn mynd â nhw at ganolfan achub ac esgus eu bod yn gŵn strae.

Ychwanegodd Sara Rosser: "Ar hyn o bryd, mae'r canolfannau achub rydyn ni'n gweithio â nhw yn dweud eu bod nhw'n llawn ac o dan bwysau anferth."

Mae cŵn sy'n cyrraedd canolfannau achub wedi'r pandemig yn fwy tebygol o gael problemau gyda'u hiechyd neu ymddygiad, gan ei wneud yn anodd i ddod o hyd i gartref newydd iddyn nhw.

Yn aml, does dim gwybodaeth gefndir am iechyd nag ymddygiad yn cael ei chyflwyno gyda chi coll ffug, sydd yn gwneud y broses mabwysiadu'n hirach.

Dywedodd Hope Rescue ei fod wedi derbyn dros 7,000 o geisiadau i fabwysiadau ci ers dechrau'r flwyddyn, a'i fod wedi gorfod atal ceisiadau pellach oherwydd fod cynifer wedi ymgeisio.

Yn aml, nid yw'n bosib i symud ci i ganolfan achub gwahanol oherwydd mae prinder lle trwy'r rhwydwaith gyfan.

Dywedodd Meg Williams, Rheolwr Datblygiad Menter yn Hope Rescue: "Rydyn ni'n meddwl bydd hyn yn para dwy i dair mlynedd, efallai'n hirach".

"Mae'r problemau yn mynd i barhau. Dydy pawb ddim yn dewis y ci cywir i'w cartref nhw."

Pynciau cysylltiedig