Mam Logan Mwangi yn y llys wedi'i chyhuddo o'i lofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi ymddangos yn y llys wedi'i chyhuddo o lofruddiaeth ei mab pump oed.
Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi - oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson - yn Afon Ogwr, Pen-y-bont ar 31 Gorffennaf.
Fe wnaeth Angharad Williamson, 30, o Sarn, ymddangos trwy gyswllt fideo yn llys ynadon ddydd Gwener.
Cafodd wybod y byddai'r achos yn mynd i Lys y Goron.
Ymddangosodd bachgen 14 oed yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener hefyd ar gyhuddiad o lofruddiaeth.
Nid oes modd cyhoeddi ei enw oherwydd ei oedran.
Cafodd ei roi dan ofal yr awdurdod lleol cyn gwrandawiad ple ym mis Tachwedd.
Mae llystad Logan, John Cole, 39, o Sarn, hefyd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021