Bachgen, 14, a mam Logan Mwangi wedi'u cyhuddo o'i lofruddio
- Cyhoeddwyd

Cafodd Logan ei ddisgrifio fel bachgen "caredig, doniol, a chlyfar" wedi'i farwolaeth
Mae menyw 30 oed wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth ei mab pum mlwydd oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi - oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson - yn Afon Ogwr ym mis Gorffennaf.
Angharad Williamson, 30 oed o Sarn, yw'r trydydd person i gael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn ymwneud â'r achos.
Daw ar ôl i fachgen 14 oed ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth yn gynharach ddydd Iau.
Yn Llys Ynadon Caerdydd, fe atebodd y bachgen "ie" pan ofynnwyd iddo gadarnhau ei enw.
Nid oes modd cyhoeddi ei enw oherwydd ei oedran.

Mae Angharad Williamson a John Cole wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth
Roedd llys-dad y bachgen John Cole, 39 o Sarn, eisoes wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.
Mae ef ac Angharad Williamson hefyd yn wynebu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi, o Sarn, yn Afon Ogwr yn oriau mân y bore ar 31 Gorffennaf ar ôl adroddiadau o bryderon am blentyn pump oed oedd ar goll.
Yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth, cafodd ei ddisgrifio fel bachgen "caredig, doniol, a chlyfar" mewn teyrngedau.
Mae disgwyl i Ms Williamson ymddangos yn y llys ddydd Gwener.
Bydd y bachgen 14 oed yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd y bachgen ei roi ar gyrffyw rhwng 20:00 a 08:00, i'w fonitro gan dag.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd5 Awst 2021
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021