'Golff yn llenwi bwlch': Brynmor Williams yn 70

  • Cyhoeddwyd
Brynmor WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Brynmor Williams

Brynmor Williams, y cyn-fewnwr rhyngwladol a'r sylwebydd craff o Aberteifi, sydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 mlwydd oed.

Bu'n hel atgofion ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul. am y dathliadau pen-blwydd, ei garafán a sgwrsio am rygbi ar y cwrs golff!

Oed yr addewid

"Mae ambell sypreis wedi bod yn barod, Jen y wraig yn gweld bod e'n ben-blwydd pwysig. Er mai dim ond rhif yw e... wel dyna be' fi'n trio dweud wrth fy hun 'ta beth.

"Es i ar cruise o gwmpas Prydain gyda ffrindiau o ochrau Sarnau, Aberteifi. O'dd e ddim yn rhywbeth oeddwn i'n edrych ymlaen at os oeddwn i'n onest. Doeddwn i ddim yn credu bo' fi'r teip o foi bydde'n mynd ar cruise. Ond joies i mas draw, roedd hi'n wythnos arbennig.

"Dwi hefyd wedi bod yn Nhresaith am dair noswaith, eto gyda ffrindiau. Roedd y gwragedd yn cerdded yr arfordir lan tuag at Llangrannog a fi a'n ffrindie yn chwarae golff yn Aberteifi a bwyd yn yr Harbourmaster yn Aberaeron.

"Lot o bethau wedi digwydd yn barod i ofalu bo' fi'n ymwybodol fy mod wedi troi'n saithdeg!"

Disgrifiad o’r llun,

Tresaith

Golff a chymdeithasu

"Dwi wedi bod yn chwarae golff ers 30 mlynedd. Ddechreues i chware pan o'n i'n teithio gyda'r bois rygbi.

"Pan doedd dim byd i 'neud yn y pnawn ar ôl ymarfer yn y boreau, golff oedd yr ateb!

"Ers hynny dwi wedi bod yn aelod lawr ym Mhorthcawl ers pump ar hugain o flynyddoedd. Dipyn o ffrindiau hefyd yn aelodau yna, pobl fel Gareth Davies, David Richards, Alan Meredith a Gareth Edwards wrth gwrs. Lot o gwmni da ac mae'r cwrs yn rhagorol, un o'r gore yn y byd yn sicr.

"Ni'n cael cyfle i ddal fyny ar bopeth ond ni'n siarad am rygbi gan amlaf. Er nad ydy llawer ohonom ni yn joio'r gêm fel o'n ni.

"Mae golff yn cadw cyfeillgarwch i fynd, oherwydd un o'r pethau mwyaf roeddwn i'n hiraethu mwyaf am ar ôl gorffen chwarae rygbi oedd rhwng 5-7 o'r gloch ar ddydd Sadwrn. Roedd hwn yn gyfle i ni drafod pwy oedd wedi chwarae yn dda, pwy oedd wedi gadael y tîm lawr.

"Dyna'r fath o sgwrs a chyfeillgarwch oedd y bwysig iawn i fi ac eraill wrth chwarae rygbi. Rwy'n hiraethu am hynny yn aml.

"Dwi'n gweld bod golff yn llenwi'r bwlch yna. Ma' ware'r gêm a'r sbort gyda chyfuniad o'r cymdeithasu wedi helpu fi a llawer o fois arall."

Carafán

"Ma' fy savings i gyd wedi mynd, dwi wedi prynu carafán newydd yn Nhresaith i fy hun!

"Mae carafán wedi bod gyda fi a Jen yna ers blynydde, ond bob pymtheg blynedd ma'r maes carafanau yn mynnu eich bod chi'n gadael neu yn prynu un newydd. Pwrpas hyn yw cadw safonau yn uchel.

"Dwi wedi gorfod prynu decking i fynd o'i chwmpas hi tro yma.

"Mae'n beth od, gwario miloedd ar brynu carafán a wedyn prynu decking i iste tu allan iddi, dwi ddim cweit yn siŵr sut ma' hynny'n gweithio!"

Ffynhonnell y llun, Thomas Carroll
Disgrifiad o’r llun,

Brynmor wrth ei waith

Gweithio yn help corfforol a meddyliol

"Dwi'n credu dyle fod 'na ryw fath o bwrpas yn fy mywyd, dwi'n gweithio tri diwrnod yr wythnos i gwmni yswiriant. A dwi'n credu bod e'n help i'n iechyd i, yn gorfforol a hefyd yn feddyliol.

"Dwi'n gweithio'n agos gyda Robert Jones, y cyn-fewnwr. Dwi'n datblygu perthnasau sy'n bwysig i fusnes.

"Dwi'n mwynhau'r gwaith ac yn bwriadu gwneud e am flwyddyn i ddwy arall, os nad tri i bedair blwyddyn arall.

"Mae llawer o fy nghwsmeriaid yn siarad yn fwy am fy mab i, Lloyd, na fi.

"A ma' Robert Jones wastad yn jocian wrth ddweud: 'Roedd Brynmor Williams wastad yn ail i Gareth Edwards drwy ei yrfa, nawr fe yw ail yn ei dŷ - ma' Lloyd yn cadw fe mas o dîm y teulu!'"

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Lloyd a Brynmor Williams yn 2009 pan oedd Lloyd yn sgwad dan 20 Cymru

Ail i Gareth Edwards

"Mwynheais i fy ngyrfa yn fawr.

"Dwi'n credu mai dim ond un dyn yng Nghymru oedd ddim yn hoff iawn o Gareth Edwards a fy nhad oedd hwnna. Oedd e eisiau ei fab ar y maes, nid yn yr eisteddle yn cadw ei ben-ôl yn dwym!

"Roedd hi'n anrhydedd bod yn eilydd i Gareth achos doedd e byth yn cael gêm wael, wastad yn serennu. A ddysges i gymaint yn cystadlu am y crys, a ni'n cadw cysylltiad agos.

"Dwi'r un peth gyda Lloyd weithiau. Chi'n meddwl gymaint am eich plant chi. Does neb yn well na'ch plant chi nagoes! Ma'n mynd nôl at fy nhad - meddwl bo' fi'n well na Gareth Edwards, wel dyna beth yw cheek ynde!

"Mae e'n dod i chwarae golff wythnos nesaf gyda fi! Mae'n dangos pa mor dda ni'n dod 'mlaen."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Brynmor ar daith i Awstralia yn 1978