'Anghyfiawnder' sefyll prawf gyrru yn y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Aled Roberts fod cael prawf yn y Gymraeg yn "ofyn arferol, nid arbennig"

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud fod siaradwyr Cymraeg yn wynebu "anghyfiawnder" os ydyn nhw am sefyll eu prawf gyrru yn yr iaith.

Dywedodd Aled Roberts fod yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn gweithredu'n groes i'w ymrwymiad i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

Daw ei sylwadau wedi iddo gyhoeddi adroddiad yn dilyn ymchwiliad i weithrediad cynllun iaith Gymraeg yr asiantaeth.

Dywedodd y DVSA ei bod "eisoes wedi cytuno i gynnal archwiliadau mewnol rheolaidd ar ein cynllun Cymraeg".

Yn ei adroddiad dywedodd y Comisiynydd fod yr asiantaeth wedi methu ar dri mater:

  • Mae profion gyrru Cymraeg deirgwaith yn fwy tebygol o gael eu canslo na rhai Saesneg;

  • Mae'n rhaid disgwyl pump i chwe wythnos yn hirach er mwyn sefyll prawf gyrru ymarferol yn y Gymraeg;

  • Os am wneud cais i sefyll prawf gyrru ymarferol Cymraeg, mae'n rhaid nodi ar y wefan bod gennych chi "ofynion arbennig".

Y DVSA 'ddim yn cwrdd â'i ymrwymiad'

Cafodd cynllun iaith y DVSA ei lunio dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac mae'n nodi y bydd "yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal".

Mae addewidion hefyd y bydd "profion gyrru yn y Gymraeg ar gael ym mhob canolfan profi… yng Nghymru", ac y bydd "safon ac ansawdd ein gwasanaethau yn gyson ledled Cymru".

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg ei bod wedi dod yn amlwg yn ystod ei ymchwiliad "nad yw arferion y DVSA yn dod yn agos at gwrdd â'r ymrwymiad y mae wedi ei wneud i bobl Cymru".

Ychwanegodd ei fod wedi clywed am brofiad merch o ardal Y Rhyl oedd wedi cael gwybod dau ddiwrnod cyn ei phrawf na fyddai arholwr Cymraeg ar gael.

Cynnig yr asiantaeth oedd i barhau gydag arholwr Saesneg neu aros dros bum wythnos am arholwr Cymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae profion gyrru Cymraeg deirgwaith yn fwy tebygol o gael eu canslo, yn ôl y Comisiynydd

"Y neges sy'n cael ei rhoi i'n pobl ifanc yw y dylent ddefnyddio'r Saesneg os ydynt am sefyll eu prawf gyrru," meddai Mr Roberts.

"Ac o edrych ar ba mor isel yw'r niferoedd sy'n sefyll eu prawf drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n amlwg fod hyn yn cael dylanwad ar ddewis iaith unigolion."

Mae'r Comisiynydd yn argymell yn yr adroddiad bod y DVSA yn cynnal adolygiad o'r ffordd caiff profion cyfrwng Cymraeg eu cynnal ac yn paratoi cynllun gweithredu er mwyn sicrhau bod profion gyrru ymarferol Cymraeg yn cael eu cynnig yn rhagweithiol ac yn gyfartal yn y dyfodol.

"Dwi wedi gofyn iddyn nhw gynnal adolygiad iddyn nhw ddweud yn union be' ydy'r broblem, ac ar ôl hynny iddyn nhw gyhoeddi cynllun gweithredu i ddweud sut maen nhw'n mynd i'r afael â hyn," meddai Mr Roberts ar Dros Frecwast fore Mercher.

"Ond yn amlwg mae 'na gwestiwn yn codi fan hyn ynglŷn â faint o arholwyr sydd wedi eu hyfforddi yn y Gymraeg, sut mae'r arholwyr yna wedi eu dosbarthu, oes 'na ddarpariaeth ddigonol o fewn pob canolfan arholi?"

'Archwiliadau mewnol rheolaidd'

Dywedodd y DVSA ei bod wedi "cynorthwyo ymchwiliad y Comisiynydd trwy ddarparu gwybodaeth yn dangos sut mae'r DVSA yn cefnogi siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd".

"Rydym eisoes wedi cytuno i gynnal archwiliadau mewnol rheolaidd ar ein cynllun Cymraeg a sut rydym yn darparu profion gyrru yn Gymraeg, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wella'r gwasanaeth a ddarparwn," meddai mewn datganiad.

"Byddwn nawr yn ystyried adroddiad llawn, terfynol y Comisiynydd ac yn ymateb maes o law."