COP26: Tywydd eithafol, sychder, llifogydd a thanau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Arbenigwyr newid hinsawdd ym mhrifysgolion Cymru yn ein hatgoffa o'r hyn sydd yn y fantol

2050 yw'r flwyddyn sy'n cael ei chrybwyll o hyd yn y trafodaethau presennol am newid hinsawdd.

Erbyn hynny mae angen i'r byd fod wedi sicrhau cydbwysedd rhwng allyrru ac amsugno'r nwyon sy'n cynhesu'r blaned.

Mae'n dasg anferth - gydag arweinwyr rhyngwladol ar fin cwrdd yn Glasgow i ystyried a ydyn nhw'n gwneud digon i allu cyrraedd y nod.

Mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn i rai o arbenigwyr y maes ym mhrifysgolion Cymru i'n hatgoffa o'r hyn sydd yn y fantol.

Tywydd eithafol

"Erbyn canol y ganrif mae'n debyg bydd Cymru yn wlad o eithafion amlycach," rhybuddiodd Dr Hywel Griffiths o Brifysgol Aberystwyth.

"Mae'r wlad a'r byd yn mynd i newid o'n blaenau ni yn gyflym iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Effaith Storm Ciara ar Ddyffryn Conwy yn 2020

Eisoes mae tymheredd blynyddol cyfartalog Cymru wedi cynyddu bron i radd ers y 1970au gydag asesiad y Cenhedloedd Unedig o gynlluniau rhyngwladol i daclo newid hinsawdd yn rhagweld y byddwn ni'n nesáu at dair gradd o gynnydd erbyn 2100.

Wrth iddi boethi mae'r perygl o hafau sych a chrasboeth yn cynyddu, eglurodd y daearyddwr.

"Ond mae atmosffer cynhesach yn gallu dal mwy o anwedd dŵr - a dyna sy'n gallu achosi stormydd mwy eithafol."

Beth bynnag yw canlyniad y gynhadledd fawr yn Glasgow "byddwn ni yng Nghymru yn profi rhai o'r effeithiau yma sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd," meddai.

"Achos mae'r carbon sydd wedi cael ei allyrru dros y degawdau diwethaf yn golygu bod newid hinsawdd yn digwydd heddiw. Mae'n rhaid i ni addasu yn ogystal â lleihau allyriadau yn syth."

Cynnydd yn lefel y môr

Fel gwlad arfordirol, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu Cymru yw'r cynnydd yn lefel y môr, ychwanegodd Dr Sophie Ward o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.

Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r A55 a'r rheilffordd ar hyd arfordir gogledd Cymru gael llifogydd yn amlach, medd Dr Sophie Ward

Ar hyn o bryd mae'r môr yn codi oddeutu 4cm bob degawd ond mae 'na bryder mawr y bydd hynny'n gwaethygu wrth i rew môr y pegynau doddi.

Fe allai isadeiledd fel yr A55 a'r rheilffordd ar hyd arfordir gogledd Cymru gael llifogydd yn llawer fwy rheolaidd yn y dyfodol, yn ôl ymchwil gan y brifysgol.

Y cysylltiad rhwng y cynnydd yn lefel y môr a'r tebygolrwydd uwch o stormydd ffyrnig sy'n arbennig o fygythiol, meddai.

"Pan mae storm yn dod drwodd a phan mae llanw mawr, be sy'n digwydd yw 'da ni'n cael fatha storm surge a ma' hynny'n gallu mynd dros ffyrdd a rheilffyrdd felly mae'n broblem 'da ni'n gweld yn barod."

Gallai colli rhew miloedd o filltiroedd i'r gogledd o Gymru yn yr Arctig hefyd effeithio ar ein systemau tywydd, yn ôl data gan un arall o brosiectau'r brifysgol.

Mae ymchwil yn parhau i ystyried dylanwad y toddiant ar amodau tywydd fel y 'Beast from the East' a barlysodd rannau helaeth o'r DU yn 2018.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd wedi cydnabod efallai y bydd yn rhaid dechrau "dadgomisiynu" pentref Fairbourne yn 2045

"Erbyn canol y ganrif dwi'n meddwl y bydd hi'n amlwg bod nifer o'r ardaloedd arfordirol sy'n debygol o gael llifogydd unwaith y flwyddyn erbyn un ai wedi cael eu gwarchod gan waith peirianyddol newydd neu bydd yr ardaloedd yna wedi'u gadael ar ôl - bydd pobl wedi symud allan," proffwydodd Dr Hywel Griffiths.

"Bydd e wedi cael effaith sylweddol arnon ni fel pobl yn emosiynol ac yn seicolegol wrth i'r newid yma ddigwydd."

Prinder dŵr

"Wrth gwrs pan ry'n ni'n meddwl am Gymru ry'n ni'n meddwl am wlad sy'n cael llawer iawn o law a dydy sychder ddim yn broblem," meddai Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor.

Ond mae'r gwaith modelu y mae ef wedi'i wneud ar y cyd ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol y Drindod, Dulyn yn dangos "y gallai hynny newid yn y dyfodol".

Disgrifiad o’r llun,

Gellid disgwyl cyfnodau lle fydd prinder dŵr fel yma ar Fannau Brycheiniog yn 2020

Fe wnaeth yr ymchwilwyr astudio llif dŵr dyddiol tebygol yr ardaloedd o amgylch afonydd Conwy a Tywi hyd at y flwyddyn 2079, gan gymryd newid hinsawdd i ystyriaeth.

"Fe ddangoson ni bod hi'n debygol y bydd 'na gyfnodau sylweddol lle mae'n bosib y gwelwn ni brinder dŵr a mae hynny wrth reswm ym mynd i gael goblygiadau i nifer fawr o ddiwydiannau yn ogystal â bywyd gwyllt hefyd," meddai.

Tanau

Mae sychder yn creu perygl hefyd o danau gwair, gyda Chymru yn barod ymysg y rhannau o'r DU sy'n dioddef waethaf.

Disgrifiad,

Yr olygfa o hofrennydd o dân gwyllt yng Ngwynedd

Ma' De Cymru'n profi oddeutu 3000 o danau gwair bob blwyddyn ar gyfartaledd a mae 'na "sicrwydd sylweddol iawn y bydd hyn y gwaethygu wrth i dymereddau godi," yn ôl yr Athro Stefan Doerr, un o brif arbenigwyr y byd yn y maes.

Ei bryder e yw y bydd y tanau'n uwchraddio i fod yn danau sy'n llosgi coedwigoedd yn ystod cyfnodau hirach o dywydd crasboeth.

"Mae gennym ni ardaloedd eang o goetir ac unwaith mae fforest yn llosgi mae bron yn amhosib diffodd y tân," eglurodd y gwyddonydd o Brifysgol Abertawe.

"Yn yr achosion rheini mae'r risg i'r boblogaeth yn sylweddol."

'Siarad a gweithredu yn bwysig'

"Mae'n rhaid i ni gyd feddwl am newid hinsawdd - mae'n andros o bwysig ein bod ni gyd yn siarad am newid hinsawdd," ymbiliodd Dr Sophie Ward.

"Da ni angen newidiadau mawr ar raddfa fyd eang ond hefyd 'da ni gyd yn gallu neud petha bach yn ein bywydau ni rŵan - cymrwch y beic, neu cerdded yn lle gyrru, hedfan llai neu bwyta'n lleol."

"Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd," meddai.

"Wrth gwrs mae'n hynod o bwysig bod gwleidyddion yn dod at ei gilydd i roi mesurau priodol mewn lle i helpu i liniaru effeithiau newid hinsawdd," pwysleisiodd Dr Prysor Williams.

"Mae mynd i effeithio ar bob un ohonom ni yma yng Nghymru.

"Fy neges i i'r arweinwyr fydd o amgylch y byrddau trafod yn Glasgow yw peidiwch a meddwl am yr etholiad nesa' neu'r cynllun busnes pum mlynedd," meddai'r Athro Mary Gagen, sy'n arbenigo mewn coed a newid hinsawdd ym Mhrifysgol Abertawe.

"Neith eich plant a'ch wyrion chi ddim derbyn hynny fel esgus am ddiffyg gweithredu."