Canabis meddygol: Cyflwyno deiseb i'r llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Mae gofalwyr yn ymweld â Bailey yn ddyddiol ers iddo adael yr ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Mae gofalwyr yn ymweld â Bailey yn ddyddiol ers iddo adael yr ysgol

Mae teulu'n rhybuddio y bydd eu mab 19 oed yn llwyr ddibynnol ar ofal lliniarol os na allan nhw fforddio trin ei epilepsi â chanabis meddygol.

Mae Craig Williams a Rachel Rankmore o Gaerdydd yn dweud bod bywyd Bailey Williams "yn y fantol".

Maen nhw'n gwario £1,200 y mis ar y cyffuriau maen nhw'n dweud sydd eu hangen ar Bailey.

Ond mae'r pandemig wedi gwneud codi arian yn anoddach, medden nhw.

Maen nhw'n rhan o grŵp sy'n cyflwyno deiseb yn Downing Street ddydd Mawrth yn galw am gronfa frys i gleifion fel Bailey.

Dywed ymgyrchwyr fod ganddyn nhw dros 600,000 o lofnodion.

Canabis meddygol wedi 'newid bywyd' Bailey

Newidiodd Llywodraeth y DU y gyfraith yn 2018 i wneud rhagnodi canabis meddygol yn gyfreithlon.

Ond dywed y grŵp ymgyrchu End Our Pain mai dim ond tri phresgripsiwn o'r fath sydd ar gael ar y GIG ers hynny.

Mae llawer o deuluoedd yn cael eu gorfodi i fynd yn breifat.

Dywed y cwpl eu bod wedi dod ar draws amharodrwydd i ragnodi ar y GIG ac wedi gorfod defnyddio meddyg yn Llundain sy'n barod i wneud hynny'n breifat.

"Pe bai'n rhaid i Bailey ddod oddi ar ei feddyginiaeth nawr oherwydd nad ydyn ni'n gallu ei fforddio, yr unig driniaeth arall ar gael iddo fyddai gofal lliniarol," meddai ei fam Rachel.

"Byddan nhw'n mynd ag ef i'r ysbyty ac yn cau ei gorff i geisio atal y ffitiau (seizures).

"Mae wedi rhoi cynnig ar bob cyffur arall."

teuluFfynhonnell y llun, Rachel Rankmore
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Rankmore a Craig Williams am i Bailey (ail o'r dde) fwynhau ei fywyd gyda'i frawd, Ross (ail o'r chwith)

Esboniodd tad Bailey, Craig, fod y feddyginiaeth canabis wedi newid ei fywyd, gan atal ei fab rhag cael cannoedd o ffitiau y dydd.

"Mae Bailey wedi bod ar y feddyginiaeth yma ers pum mlynedd a hanner bellach ac mewn pum mlynedd a hanner nid ydym wedi cael ymweliad ambiwlans," meddai.

"Mewn pum mlynedd a hanner dy'n ni ddim wedi gorfod aros dros nos yn yr ysbyty, ac eto mae'n ymddangos eu bod yn dweud am ba bynnag reswm nad oes prawf ei fod yn gweithio."

Mae gan rai gweithiwr meddygol proffesiynol amheuon o hyd ynghylch effeithiolrwydd a diogelwch canabis, er ei fod bellach yn gyfreithiol.

Ym mis Mawrth 2021 eglurodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) y gallai gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ystyried y cynhyrchion "lle bo hynny'n glinigol briodol mewn achos unigol".

'Diogelwch cleifion yw prif bryder meddygon'

Trosglwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ymholiadau am ei bolisïau i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Cannabidiol (Epidyolex) eisoes ar gael fel mater o drefn ar gyfer rheoli rhai mathau o epilepsi anhydrin difrifol.

"Disgwyliwn i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ystyried yr holl dystiolaeth a chanllawiau cydnabyddedig cyn rhoi presgripsiwn."

Ychwanegodd mai "prif bryder meddygon bob amser fydd sicrhau diogelwch eu cleifion".