Gareth Bale yn ôl i Gymru i herio Belarws a Gwlad Belg

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gareth Bale yn ennill ei 100fed cap y tro nesaf iddo wisgo crys coch Cymru

Fe allai Gareth Bale ennill ei 100fed cap dros Gymru fis yma ar ôl cael ei enwi yn y garfan ar gyfer y gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Belarws a Gwlad Belg.

Doedd Bale, sydd ar 99 cap ar hyn o bryd, ddim ar gael ar gyfer y gemau fis diwethaf oherwydd anaf i linyn y gar.

Mae Aaron Ramsey hefyd wedi'i gynnwys er nad oedd yn rhan o dîm Juventus dros y penwythnos oherwydd "blinder i'w gyhyrau".

Dydy Bale ddim wedi chwarae i'w wlad na'i glwb ers y gêm gyfartal rhwng Cymru ac Estonia ar 8 Medi.

Y pumed i gael 100 cap i Gymru

Bydd gweld ymosodwr Real Madrid yn dychwelyd yn hwb mawr i Gymru wrth iddyn nhw geisio sicrhau'r ail safle yn y grŵp o flaen y Weriniaeth Siec.

Bale ydy prif sgoriwr tîm dynion Cymru, ac ef fyddai'r ail ddyn yn unig i ennill 100 o gapiau - yn dilyn Chris Gunter.

Mae tair wedi cyrraedd y garreg filltir honno ar gyfer tîm y merched - Jess Fishlock, Loren Dykes a Sophie Ingle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai pedwar pwynt o'r ddwy gêm yn sicrhau'r ail safle i dîm Rob Page

Mae Rob Page wedi gwneud tri newid i'r garfan a gafodd gêm gyfartal yn y Weriniaeth Siec a buddugoliaeth yn Estonia fis Hydref.

Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Will Vaulks ac amddiffynnwr Abertawe, Ben Cabango yn cadw eu llefydd ar ôl cael eu galw i'r garfan yn dilyn anafiadau y tro diwethaf.

Mae Tom Lockyer o Luton a Matthew Smith o Hull yn colli eu llefydd yn y garfan.

Dydy David Brooks ddim yn y garfan chwaith wedi iddo gael diagnosis o ganser Hodgkin Lymphoma ar ôl tynnu 'nôl o'r garfan fis diwethaf.

Mae'r ymosodwr Kieffer Moore wedi'i enwi yn y garfan o 28, ond ni fydd ar gael i herio Belarws oherwydd gwaharddiad.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Will Vaulks a Ben Cabango yn cadw eu llefydd ar ôl cael eu galw i'r garfan yn dilyn anafiadau fis diwethaf

Y gemau cartref fis yma ydy'r ddwy gêm olaf i Gymru yn y grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Bydd y ddwy yn cael eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda'r gêm yn erbyn Belarws ddydd Sadwrn, 13 Tachwedd, ac yna'r gêm yn erbyn Gwlad Belg ar y nos Fawrth.

Mae Cymru'n drydydd yn y grŵp ar hyn o bryd - tu ôl i'r Weriniaeth Siec ar wahaniaeth goliau, ond mae Cymru wedi chwarae un gêm yn llai.

Byddai pedwar pwynt o'r ddwy gêm nesaf felly yn sicrhau'r ail safle i Gymru.

Be' ydy arwyddocâd yr ail safle?

Y gemau ail-gyfle ydy unig lwybr Cymru i Gwpan y Byd Qatar bellach, gyda Gwlad Belg eisoes wedi ennill y grŵp rhagbrofol.

Er bod Cymru bron yn siŵr o gyrraedd y rheiny oherwydd eu perfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd, mae'n dal yn bwysig iddynt anelu at gipio'r ail safle yn y grŵp.

Trwy orffen yn ail fe fyddai gan Gymru lwybr haws trwy'r gemau ail-gyfle, ac fe fydden nhw hefyd yn chwarae o flaen cefnogaeth y Wal Goch gartref.

Carfan Cymru

Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies;

Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Chris Mepham, Joe Rodon, Neco Williams, James Lawrence, Rhys Norrington-Davies, Ben Cabango;

Aaron Ramsey, Joe Allen, Ethan Ampadu, Jonny Williams, Harry Wilson, Joe Morrell, Dylan Levitt, Will Vaulks, Sorba Thomas;

Gareth Bale, Daniel James, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Brennan Johnson, Rubin Colwill, Mark Harris.