Peiriannydd wedi marw ar ôl i ymarfer 'fynd o chwith'

  • Cyhoeddwyd
Cpl Jonathan BaylissFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Corpral Jonathan Bayliss wedi hedfan i Fôn o RAF Scrampton yn Sir Lincoln er mwyn bod yn rhan o'r ymarferiad y bu farw ynddo

Mae cwest yng Nghaernarfon wedi clywed sut y bu farw peiriannydd tîm y Red Arrows yn 2018 pan darodd awyren Hawk lain lanio maes awyr Y Fali ar Ynys Môn.

Bu farw'r Corpral Jonathan Harvey Bayliss, oedd yn 41 oed, yn ystod ymarferiad PEFATO sy'n paratoi peilotiaid ar gyfer sefyllfa ble mae injan awyren yn methu wrth esgyn i'r awyr.

Bu'n rhaid i'r peilot, yr Awyr-Lefftenant David Stark, gael triniaeth ysbyty ar ôl llwyddo i ymdaflu o'r awyren cyn iddi daro'r ddaear.

Wrth agor y gwrandawiad, dywedodd Uwch Grwner Dros Dro Gogledd Orllewin Cymru, Katie Sutherland, y bydd "nid yn unig yn ystyried sut [aeth yr ymarferiad o chwith], ond sut a dan ba amgylchiadau" y bu farw'r Corpral Bayliss.

Mae hyfforddwr yr Awyrlu oedd yn Y Fali ar y pryd, a chyn-aelod o'r Red Arrows, wedi disgrifio gweld yr awyren jet Hawk 1 - Red 3 - yn "troi'n sydyn" cyn syrthio "ar gyflymder" ar 20 Mawrth 2018.

Roedd yr Arweinydd Sgwadron Steve Morris ar y rhedfa ac ar fin hedfan awyren arall gyda myfyriwr.

Dywedodd bod "graddfa'r disgyniad yn sylweddol" ond nid oedd yn hollol siŵr ai Red 3 oedd mewn trafferthion ynteu awyren arall.

Awgrymodd iddi gymryd rhwng 12 a 15 eiliad rhwng y symudiad cyntaf a ddenodd ei sylw a'r foment y tarodd yr awyren y ddaear.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdurdodau'n ymateb i'r ddamwain yn Y Fali ym mis Mawrth 2018

Gwelodd canopi'r jet yn chwalu a'r peilot yn ymdaflu ohoni llai nag eiliad cyn i'r awyren ffrwydro'n fflamau.

Clywodd y crwner bod y Corpral Bayliss wedi marw o ganlyniad i anadlu mwg ac anaf i'w ben.

Dywedodd yr Arweinydd Sgwadron Morris mai'r peirianwyr gorau oedd yn cael eu dewis ar gyfer rhai ymarferion, a bod peilotiaid yn ymarfer rhai manwfrau'n rheolaidd.

Ni fyddai'r math o gyrch y bu farw'r Corpral Bayliss ynddo yn digwydd mwyach, meddai.

Nid oedd mewn sefyllfa i gadarnhau pa hyfforddiant y byddai swyddogion nad oedd yn beilotiaid wedi ei dderbyn yn 2018 o ran gweithredu sedd ymdaflu'r jet.

Dywedodd bod unigolion heddiw yn cael eu dysgu sut i gau eu hunain mewn sedd ymarfer a thynnu'r handlen, gan nad oed modd i'r peilot ei weithredu ar eu rhan unwaith maen nhw yn yr awyr.

Ffynhonnell y llun, Yr Awyrlu Brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r Awyr-Lefftenant David Stark roi tystiolaeth i'r cwest ddydd Mercher

Gofynnodd cyfreithiwr ar ran yr Awyr-Lefftenant Stark, a ymunodd â'r Red Arrows ym mis Awst 2017, am y pwysau gwaith ychwanegol ar aelodau wrth ymaelodi â'r tîm.

Atebodd yr Arweinydd Sgwadron Morris: "Mae'r pwysau rydych yn ei roi ar eich hun yn gallu bod yn ddwys, yn enwedig ym misoedd y gwanwyn pan rydych yn dechrau creu'r trefniannau.

Ychwanegodd bod nifer o ddyletswyddau eraill hefyd, gan gynnwys delio gyda'r cyhoedd a'r wasg, ond doedd dim pwysau, meddai, ar unrhyw un i hedfan os nad oedan nhw'n teimlo'n ffit i wneud hynny.

Clywodd y cwest bod yr Awyr-Lefftenant Stark wedi gwneud cystal wrth hyfforddi ar awyrennau Hawk yn Y Fali yn gynnar yn ei yrfa nes ei fod wedi dechrau hyfforddi eraill tra ei fod yno.

Canslo hyfforddiant wythnosau ynghynt

Dywedodd William Allen - Prif Dechnegydd RAF Scrampton yn Sir Lincoln, o le teithiodd Mr Bayliss i Fôn - bod y peiriannydd wedi cael hyfforddiant sut i ddefnyddio sedd ymdaflu jet.

Ond doedd yr un o'r ddau wedi cael hyfforddiant ar ddynwaredwr hedfan arbenigol ar safle'r Awyrlu yn Y Fali. Roedd hyfforddiant i fod i ddigwydd yn Chwefror 2018 ond fe gafodd ei ganslo.

Mae'r hyfforddiant hwnnw, meddai "yn rhoi gwell syniad i chi beth sy'n digwydd - gwell syniad o bryd rydych chi am ymsaethu o awyren".

Gofynnodd y crwner a oedd o'r farn y byddai Mr Bayliss "wedi bod yn ddigon ymwybodol o'r angen i ymdaflu" wrth glywed y geiriau 'eject, eject, eject'"

Roedd Mr Allen yn ei ddagrau wrth geisio ateb, gan ddweud ei fod wedi pendroni ynghylch y peth yn ei ben "filiwn o weithiau".

Dywedodd nad ar chwarae bach y mae peilotiaid yn defnyddio'r gair eject ac felly mae angen gweithredu o'i glywed a thynnu'n handlen ymdaflu.

Ychwanegodd nad oedd yn gwybod bod yr Awyr-Lefftenant Stark yn bwriadu cynnal ymarferiad PEFATO gyda Mr Bayliss ar fwrdd yr awyren.

Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara am bedwar diwrnod.