Apêl i ailgodi cerflun 'trawiadol' Y Pererin yn Ystrad Fflur

  • Cyhoeddwyd
Y PererinFfynhonnell y llun, Dafydd Wyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Morgan bod y cerflun wedi bod yn "ddiwrnod pwysig iawn" yn yr ardal

Mae cymuned yng nghanolbarth Cymru wedi lansio apêl i ailgodi cerflun "trawiadol" yn yr ardal.

Cafodd cerflun Y Pererin ei godi yn 2012 yn Ystrad Fflur, ger Pontrhydfendigaid, fel rhan o arddangosfa Sculpture Cymru, gyda'r bwriad o adlewyrchu hanes a thirwedd ardal mynyddoedd Cambria.

Ond syrthiodd Y Pererin - oedd wedi'i greu o bren - yn 2019, ac mae aelodau o'r gymuned bellach yn ymgyrchu i'w ailgodi.

Yn ôl Dafydd Morgan, rheolwr prosiect Menter Mynyddoedd y Cambrian oedd yn siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Mercher, "byddai fe'n hyfryd gweld Y Pererin 'nôl ar gopa'r Penlan uwchben abaty Ystrad Fflur".

Roedd Y Pererin yn un o nifer o gerfluniau yn yr ardal a gafodd eu codi yn 2012.

Ond yn 2019, "oherwydd gwyntoedd cryf fe ddaeth Y Pererin lawr gyda bang anferth, a fynna mae'r 'Pererin' hyd yn hyn", meddai Mr Morgan.

Dros y blynyddoedd fe ddaeth y cerflun yn "dirnod pwysig iawn" yn yr ardal, ychwanegodd Mr Morgan.

"Mae'n rhywbeth sydd yn drawiadol ar y dirwedd, a rhywbeth 'wy wedi dod i 'nabod dros y blynyddoedd ac wedi treulio tipyn o amser gyda dydd a nos."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Wyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cerflun gwreiddiol yn 14 troedfedd o uchder

Yn dilyn ei gwymp, mae Grŵp Cyswllt Cymunedol Ystrad Fflur ynghyd ag Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur wedi gwneud cais cynllunio i Gyngor Ceredigion er mwyn ail-adeiladu'r cerflun.

Y bwriad y tro hwn yw codi cerflun fwy "cadarn" fydd yn gallu gwrthsefyll y tywydd.

"Mae'r un gwreiddiol 'di para saith mlynedd, blwyddyn oedd yr un gwreiddiol fod 'na," meddai Mr Morgan.

Bydd y cerflun newydd "yn fwy sefydlog, yn fwy cadarn, wedi'i wneud o bren a metel," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Wyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cerflun newydd yn cael ei wneud o gymysgedd o bren a dur

Cyhoeddwyd yr apêl ar-lein ar 25 Hydref a hyd yn hyn mae dros 20% o'r cyfanswm o £15,000 wedi cael ei godi ar gyfer yr achos.

Bydd y World Monuments Fund yn cyfrannu hanner y swm, a bydd yn rhaid i'r gymuned gasglu'r gweddill.

"Mae fe'n bartneriaeth enfawr i godi rhywbeth pwysig iawn i'r rhan yma o Gymru," yn ôl Mr Morgan.

"Beth sy'n bwysig yw bod ni'n gallu gweld y cerflun unwaith eto uwchben y bryn."