Ateb y Galw: Y darlithydd Sarah Cooper

  • Cyhoeddwyd
Sarah CooperFfynhonnell y llun, Sarah Cooper

Sarah Cooper sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Meinir Olwen yr wythnos diwethaf.

Darlithydd mewn ieithyddiaeth yw Sarah Cooper ac mae hi'n cynnal ymchwil ynglŷn â'r broses o ddysgu ieithoedd ym Mhrifysgol Bangor.

Yn wreiddiol o Nuneaton, Swydd Warwick, mae hi'n byw yn Llanfairpwll gyda'i gwr Siôn. Yn ei amser sbâr mae hi'n hoff o goginio a gwneud crochet.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Wnes i losgi fy llaw ar hob pan oeddwn i'n ifanc a dw i'n cofio Dad yn mynd â fi i'r ysbyty a gweld y nyrs - Brenda.

Roeddwn i'n 3-4 oed ar y pryd a heb wrando ar Dad, oedd wedi dweud bod yr hob yn boeth ac i beidio rhoi fy llaw arno fo!

Doedd o ddim yn ddrwg ond roeddwn i'n teimlo'n euog am beidio gwrando ar Dad!

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Pan oedden ni'n 23-24, es i a Siôn i Lundain am y penwythnos.

Aethon ni i gaffi ar Baker Street a wnaeth o archebu coffi macchiato ffansi- a pan ddoth y coffi roedd o'n fach iawn. Ac oedd gwyneb Siôn yn dweud "lle mae'r gweddill" ond wnaeth o jest yfed o a smalio dyna be' oedd o isio beth bynnag.

Dw i dal yn chwerthin pob tro dw i'n meddwl amdano fo.

Ffynhonnell y llun, Sarah Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Siôn a Sarah

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan oeddwn i'n canu mewn côr i ddysgwyr, oedden ni'n gwneud cyngerdd yn Pontio ym Mangor.

Yn ystod y brêc, wnes i ddod allan a siarad Cymraeg gyda cefnder i berson oeddwn i'n nabod.

Wnes i ddefnyddio Cymraeg "lleol" a dweud "yn Fangor" (fel mae pobl leol yn dweud!) a wnaeth o ddweud "Rhaid i ti ddysgu sut i dreiglo'n iawn". Wnes i ateb o'n syth a dweud mod i'n gwybod sut i dreiglo'n iawn, ond gan fy mod i isio bod yn rhan o gymuned, dw i'n efelychu'r defnydd iaith dw i'n clywed yn y gymuned.

Mae pobl ragnodol fel 'na yn gallu cael effaith drwg iawn ar bobl sy'n dysgu'r iaith ac yn trio gwneud eu gorau. Oeddwn i'n flin iawn am fis dw i'n meddwl!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Disgrifiad o’r llun,

Penmon, Ynys Môn

Penmon - dyna le es i ar y date cyntaf efo fy ngŵr Siôn, a lle wnaethon ni ddyweddïo!

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dyfeisgar, empathetig, doniol!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dros y penwythnos - wnaethon ni wylio ffilm (Disney!).

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Mae Siôn yn dweud mod i'n flêr ac mae o'n gorfod tacluso ar ôl fi drwy'r amser... dw i ddim yn cytuno!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Y llun ohonon ni, teulu a ffrindiau i gyd yn ein priodas. Pawb dan ni'n caru.

Mae teulu a ffrindiau yn bwysig iawn i mi.

Ffynhonnell y llun, Sarah Cooper
Disgrifiad o’r llun,

Priodas Sarah

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan oeddwn i'n gwneud fy ngradd gyntaf yma ym Mangor ac oedd Dawns yr Haf ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau - wnes i aros allan efo ffrindiau prifysgol tan bump o'r gloch y bore yn dawnsio a chael amser braf.

Aethon ni am frecwast mewn tafarn ac oedd 'na bedwarawd llinynnol yn chwarae caneuon pop, dw i'n cofio meddwl mod i wedi gwneud y dewis iawn yn dod i Fangor.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dw i ddim yn darllen llawer tu allan i'r gwaith, ond wrth fy modd yn gwrando ar bodlediadau. Dw i'n hoffi pethau efo panel fel The Museum of Curiosity efo John Lloyd - dw i'n dysgu rhywbeth bob tro, ond mae'n easy listening efo pobl enwog neu academyddion yn rhoi rhywbeth i arddangos mewn amgueddfa ffug.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dw i'n eitha da am roi silicone mewn stafell ymolchi (ella achos dw i'n hoffi addurno cacennau ac mae silicone yn debyg i icing)!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael parti mawr efo teulu a ffrindiau!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Byswn i'n licio cael diod efo fy hen nain oedd yn siarad Cymraeg cyn iddi symud i Coventry- swn i'n licio gwybod sut oedd hi yn byw yn Ystalyfera ar ddechrau'r 1900au (a sut oedd fy Nan pan oedd hi'n fach!).

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Rhywun cyfoethog fel Elon Musk i roi ei bres i gyd i elusennau!

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Peredur Davies

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw