Ateb y Galw: Y cerddor Richard 'Fflach' Jones
- Cyhoeddwyd
Y cerddor Richard 'Fflach' Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Geraint Løvgreen yr wythnos diwethaf.
Ynghyd â'i frawd Wyn, Richard yw un o aelodau gwreiddiol y band pync Ail Symudiad, a gafodd ei sefydlu yn 1978. Mae'r band dal i chwarae gyda'i gilydd, ac ym mis Awst, perfformiodd y band yn angladd un o'u ffans mwyaf, a'u ffrind, y cyflwynydd radio Tommo. Sefydlodd y brodyr y label recordio Fflach yn Aberteifi, eu tref genedigol, yn 1981.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Adre yn Tenby Road gyda'n rhieni, yr afon (Teifi), lan y môr a "helpu" Tadcu gyda'i waith adeiladu.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Yn fy arddegau, Julie Christie.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Gwylio Marvellous, y ffilm am Neil 'Nello' Baldwin, cefnogwr Stoke City. Stori anhygoel am ddyn arbennig.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Caernarfon a'r ardal. Yn y dre hyn chwaraeodd Ail Symudiad am y tro cyntaf tu allan i Aberteifi a'r fro, a fe wnaeth e argraff mawr arna i, ac yn dal i fwynhau mynd yna.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dim yn 'neud yn dda mewn arholiadau ysgol - ond gwnaeth y cywilydd ddim para' am hir!
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n cadw pysgod trofannol ers 35 mlynedd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson ennill Prif Grŵp Roc 1982 gyda'r cylchgrawn pop Sgrech, a chwarae o flaen dros fil yng Nghorwen.
O archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Siaradus, di-hyder, caredig.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Teenage Kicks gan The Undertones. Cân llawn egni, yn dweud popeth am y cyfnod o'r don newydd/pync. Buodd Ail Symudiad yn ffodus i gwrdd â nhw yn Abertawe.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
John Charles, un o bêl-droedwyr gorau'r byd oedd yn haeddu mwy o sylw yng Nghymru a thu hwnt. Dyle fod cerflun ohono yng Nghymru. Seren ryngwladol, ym mhob ystyr y gair.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Parti gyda teulu a ffrindiau.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Mutiny on the Bounty (Julie Pearson). Diddordeb mawr yn y stori wir yma ac wedi bod yn Cockermouth, yn ardal y Llynnoedd, man geni y prif wrthryfelwr Fletcher Christian.
The Life of Brian, i fi y ffilm mwya' gwreiddiol a doniol erioed.
Podlediadau Elis James, doniol a gwesteion diddorol.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Unrhyw biliwnydd - a bydden i'n rhoi fy arian i gyd i ffwrdd i wledydd tlawd, elusennau a'r NHS.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Bhuna Prawn Puree; Chicken Tikka Danshak; Sorbet Lemwn.
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Meilyr Emrys