Penodi Archddiacon Wrecsam yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi mai Archddiacon Wrecsam, John Lomas, fydd Esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu.
Mr Lomas fydd y degfed esgob wedi i'r cyn-esgob ac Archesgob Cymru, John Davies, ymddeol yn gynharach eleni.
Cafodd y penodiad ei wneud gan Fainc yr Esgobion wedi i Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru fethu â dod i benderfyniad ym mis Medi.
Arferai Mr Lomas fod yn beiriannydd awyrennau a bu'n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol yn ystod Rhyfel Ynysoedd y Falkland.
Yn ei swydd yn Archddiacon Wrecsam roedd John Lomas yn rhan o'r tîm a arweiniodd at gais llwyddiannus yr esgobaeth am £1.9m ar gyfer prosiect efengylu mawr yng nghanol Wrecsam.
Bydd y penodiad yn cael ei gadarnhau ar 21 Tachwedd mewn cyfarfod o Synod Cysegredig Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn Eglwys San Silin, Wrecsam.
Dywedodd yr Uwch Esgob, Andy John: "Bydd John yn ychwanegiad rhagorol at Fainc yr Esgobion ac rwy'n falch iawn ei fod wedi derbyn y swydd hon.
"Mae'n angerddol dros efengylu ac am gefnogi clerigwyr yn eu gweinidogaeth fugeiliol. Yn bennaf oll, mae'n canolbwyntio ar bobl - mae'n gwybod sut i fynd ochr yn ochr ag eraill a'u helpu.
"Rhoddodd ei brofiad yn y Llynges Frenhinol, yn benodol, werthfawrogiad iddo y gall bywyd fod yn anodd ac mae'n wynebu heriau gyda gobaith ac egni, yn ogystal â synnwyr digrifwch cynnil."
Yn ystod y misoedd nesaf mae disgwyl y bydd trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer ethol Archesgob Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2021
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021