Strategaeth gofal dementia Cymru yn 'gwbl annigonol'

  • Cyhoeddwyd
Rhaglen
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Beti George brofiad personol o'r effaith y caiff dementia

Mae strategaeth gofal dementia Llywodraeth Cymru yn gwbl annigonol, yn ôl cyflwynydd ac ymgyrchydd blaenllaw.

Dywedodd Beti George fod angen trawsnewid y system ofal presennol er mwyn sicrhau fod pobl sy'n byw gyda'r cyflwr a'u gofalwyr yn cael chwarae teg.

Galwodd am chwyldro yn y maes pan ddarlledwyd rhaglen ar S4C yn dilyn ei hanes yn gofalu am ei chymar.

Daw ei sylwadau diweddaraf wrth lansio llyfr newydd, 'Datod'.

"Does dim wedi newid ers 2017," meddai. "Mi oedd y Cynllun Gweithredu Strategol Dementia gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru 'nôl yn 2018 yn gwbl, gwbl annigonol a does dim byd o werth wedi newid."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £42m ychwanegol wedi ei roi i'r sector gofal cymdeithasol yn sgil y pandemig.

'Sgubo dan y mat'

Mae'r llyfr, sydd wedi ei olygu gan Beti George, yn gasgliad o brofiadau gofalwyr, rheolwr cartref gofal, arbenigwyr gwyddonol, academyddion a phobl sy'n byw â dementia.

Ychwanegodd Beti George: "Os oes gyda'ch chi'r arian, mi allwch gael gofal ddydd a nos yn y cartref, gan gwmnïau preifat. Ond dim ond pobl gyfoethog iawn, iawn sy'n gallu fforddio hynny.

"Felly i'r mwyafrif, yr unig opsiwn pan fydd y cyflwr yn gwaethygu, yw cartref gofal.

"Ond, mi ydych chi eto yn sôn am arian mawr... £2,000 yr wythnos.

"Mae'r holl beth wedi ei sgubo dan y mat ar hyn o bryd, a neb yn fodlon trafod."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Clefyd y galon a dementia oedd dau brif achos marwolaeth yng Nghymru ym mis Medi eleni, yn ôl yr ONS

Pwysleisiodd fod 'na enghreifftiau da o ofal dementia yng Nghymru, ond fod y ddarpariaeth yn anghyson.

"Mae cynllun Dementia Go yng Ngwynedd yn esiampl dda o gynllun sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a dwi'n siŵr fod amryw o gynlluniau tebyg ar draws Cymru," meddai.

"Ond does 'na neb ar hyn o bryd yn casglu'r arferion da yma, fel y gellir eu hefelychu ym mhob ardal ar draws Cymru a sicrhau fod y ddarpariaeth ar gael yn gyson, ble bynnag ydych chi'n byw."

Gyda'r gwasanaethau iechyd wedi'u datganoli, nid yw Beti George yn teimlo bod modd beio Llywodraeth y DU am y strategaeth yng Nghymru.

Ychwanegodd: "Mae angen ail-edrych o ddifri ar yr holl agweddau - y gofal, yr ariannu a chyflogau'r gofalwyr. Nawr ydy'r amser am newid.

"[M]ae gan y gwleidyddion yn Senedd Cymru y pŵer i weithredu a gwneud gwahaniaeth."

Dywedodd y byddai'n anfon copi o'r llyfr at y Gweinidog Iechyd ac aelodau y pwyllgor iechyd yn y Senedd, gan "obeithio y bydd y dystiolaeth yn cael ei hystyried wrth greu strategaeth newydd ar gyfer maes dementia".

"Rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth fydd yn weithredol o 2022 yn canolbwyntio ar gyfnod ola'r clefyd ac y gwelwn lai o'r agwedd 'rhowch ef/hi mewn cartref gofal' gan gryfhau'r gwasanaethau yn y gymuned.

"Ac yn bwysicach na dim - fel canser a chlefyd y galon - dwi'n gobeithio y bydd y gofal i bobl sy'n byw â dementia yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim, i bawb."

Beth ydy ymateb Llywodraeth Cymru?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd.

"Rydym wedi nodi sut y byddwn yn cryfhau meysydd gofal dementia, sydd wedi'u heffeithio gan y pandemig, gan gynnwys gwella cyfraddau diagnosis dementia a chefnogaeth i bobl fyw mor annibynnol â phosib.

"Rydym wedi sicrhau bod £42m ychwanegol ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol i helpu'r sector i ddelio â heriau parhaus a achosir gan y pandemig.

"Mae ein strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl yn sicrhau bod gan ofalwyr di-dâl fynediad at y wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth gywir. Mae hyn yn cynnwys £3m i gwrdd â'r cynnydd disgwyliedig yn y galw am wasanaethau seibiant."

Pynciau cysylltiedig