Newid hinsawdd: Be' ddylai Llywodraeth Cymru ei wneud?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
senedd

Bydd penderfyniadau gwleidyddol gan lywodraethau gwledydd y byd heddiw'n cael effaith ar yr amgylchedd am genedlaethau i ddod. Mae hyn yn wir am wledydd mwyaf y byd fel India a China, ac hefyd am wledydd maint Cymru.

Felly beth ddylai Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu? Mae Cymru Fyw wedi gofyn i dri chorff amgylcheddol; Cyfeillion y Ddaear, Cynnal Cymru a WWF, i amlinellu'r hyn fysan nhw'n hoffi ei weld yn digwydd. Rydym hefyd wedi cael ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Haf Elgar o Gyfeillion y Ddaear:

"Mae'n glir o'r gwyddoniaeth mai 'mond ychydig flynyddoedd sydd ar ôl gyda ni i leihau ein allyriadau ac osgoi effeithiau mwyaf trychinebus newid hinsawdd. Felly mae beth mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni yn y blynyddoedd nesaf yn hollol allweddol.

"Dylid asesu pob penderfyniad, cynllun a chyllido cyhoeddus gan ofyn beth fydd effaith hyn ar yr argyfwng hinsawdd? Gallwn ni ddim caniatau rhagor o brojectau carbon uchel sy'n arwain at ddefnyddio mwy o adnodau prin y byd.

"Yn hytrach rhaid blaenoriaethu buddsoddi mewn adferiad gwyrdd a theg - creu swyddi gwyrdd ledled Cymru mewn meysydd fel effeithlonrwydd ynni, beiciau trydan a'r economi gylchol.

"Dylid blaenoriaethu cefnogaeth i gymunedau a grwpiau sy'n dioddef effeithiau newid hinsawdd, er enghraifft llifogydd, llygredd aer, tlodi tanwydd a diffyg ardaloedd gwyrdd lleol."

Disgrifiad o’r llun,

Tirlithiad yn Nefyn, Pen Llŷn, 19 Ebrill 2021

Llefarydd o ran Cynnal Cymru:

"Rydym ni am weld Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i adnoddau fel 'Cynulliad y dinasyddion' (Citizen Assemblies) lleol i benderfynu ar weithredoedd amgylcheddol fel bod pobl o bob cefndir yn cael eu cynnwys yn y datrysiadau fydd yn arwain at safonau byw gwell.

"Rydym eisiau gweld mwy o fuddsoddi ariannol ar ddatrysiadau sy'n ymwneud â byd natur, yn arbennig amddiffyn coedwigoedd a mannau eraill sydd o fudd i'r amgylchedd.

"Hefyd, rydym am weld Llywodraeth Cymru yn cynnig yr adnoddau i bobl gael gosod eu cyllidebau carbon eu hunain."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y difrod yn dilyn tywydd garw yn Aberystwyth, 8 Ionawr 2014.

Llefarydd WWF:

"Mae Cymru a'r byd ar fin niwed anwrthdroadwy o'r argyfwng hinsawdd a natur. O'r tanau sy'n ymledu'n wyllt trwy'r Amason, i'r llifogydd sy'n creu dinistr mewn cymunedau yma yng Nghymru: mae pobl a bywyd gwyllt yn dioddef.

"Mae gennym gyfle o hyd i arafu newid hinsawdd ac i adfer natur yng Nghymru - ond rhaid inni weithredu nawr.

"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud natur, yr hinsawdd a phobl yn ganolog i bopeth mae'n ei wneud drwy...":

  • Wneud natur yn ganolog i'n hymateb i fethiant hinsoddol - cynyddu ar fyrder maint prosiectau adfer natur, fel adfer mawnogydd, a'r cyllid iddynt.

  • Gwobrwyo ffermwyr Cymru am warchod ac adfer natur a mynd i'r afael â newid hinsawdd trwy'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

  • Cryfhau ein cyfreithiau a'n strwythur llywodraethau ym maes yr amgylchedd i gymryd lle cyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd. Ei gwneud yn flaenoriaeth sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol cryf ac annibynnol, sydd ag adnoddau digonol.

  • Rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio ein moroedd i fynd i'r afael â newid hinsawdd a darparu datrysiadau arloesol economi carbon isel trwy warchod ac adfer morwellt ar raddfa fawr a chefnogi treialon ffermio gwymon

  • Gweithredu ar frys i wneud popeth o fewn ei gallu i ddileu datgoedwigo, colli cynefinoedd a chamfanteisio cymdeithasol mewn gwledydd tramor o gadwyni cyflenwi Cymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae 123 o bolisïau a chynigion yn Sero Net Cymru, a rhagor na 100 o addewidion gweithredu.

"Mae ein modelau'n dangos ein bod trwy weithredu ar y cyd i wireddu amcanion y cynllun ar drywydd nid yn unig targedau Cyllideb Garbon 2, sef gostyngiad ar gyfartaledd o 37 y cant mewn allyriadau, ond i ragori arnynt gyda gostyngiad o 44 y cant o'i gymharu â'r llinell sylfaen."

Cefndir i Adfer Natur

"Yn ei Datganiad Llafar diweddar am Natur a Bioamrywiaeth, ymrwymodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i gefnogi'r targed o 30x30 sy'n destun trafod yn COP15 ar hyn o bryd.

"Byddwn hefyd yn ystyried cyfraniad targedau eraill at fynd i'r afael â'r argyfwng natur. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau yng Nghymru ac â'r Senedd i ddatblygu'n targedau ein hunain ar gyfer bioamrywiaeth a phenderfynu ar y camau strategol, rheoleiddiol a deddfwriaethol y bydd gofyn i ni eu cymryd.

"Fel rhan o'i Datganiad Llafar, cyhoeddodd y Gweinidog y caiff 29 o brosiectau eu cyllido o dan y fenter Rhwydweithiau Natur a gafodd ei lansio'n gynharach eleni. Byddwn yn ariannu, ymhlith pethau eraill, prosiectau i gysylltu coetiroedd gwasgaredig er mwyn cynefin mwy a di-dor i rywogaethau, lleihau llygredd ffosffad mewn afonydd i ddiogelu natur ym mhen isaf dyffrynnoedd a gwella cyflwr cynefinoedd er mwyn i rai o'n hanifeiliaid mwyaf eiconig gael mwy o le i grwydro - y gylfinir, y britheg (pili pala) a'r maelgi."

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd gan Senedd Cymru mae 17% o anifeiliaid gwyllt Cymru mewn perygl o ddiflannu. Yn yr 1950au amcangyfrifwyd bod 36.5 miliwn o ddraenogod ym Mhrydain, erbyn heddiw credir fod tua 1 miliwn ar ôl.

"Gan adeiladu ar hyn, rydym am ddatblygu rhaglen Rhwydweithiau Natur mwy tymor hir i wella cyflwr, cysylltedd a chadernid ein cynefinoedd mwyaf gwerthfawr, hynny gyda help cymunedau lleol.

"Yn hynny o beth, yn ogystal â bod yn rhwydweithiau ecolegol, byddan nhw hefyd yn rhwydweithiau o'r bobl sydd eu hangen i sicrhau bod y gweithredu hwn o blaid natur yn parhau tua'r dyfodol. Caiff arian ar gyfer y rhaglen hon, a chynlluniau eraill i daclo'r argyfwng natur, ei gyhoeddi yn y Gyllideb ym mis Rhagfyr."

Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawnogydd

"Cafodd y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawnogydd (NPAP) ei lansio ym mis Tachwedd 2020 gan gyn-Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Mae'n disgrifio fframwaith a blaenoriaethau rhaglen pum mlynedd ar gyfer adfer mawnogydd.

"Yn ei phum mlynedd gyntaf, bydd yr NPAP yn canolbwyntio lawn cymaint ar ddatblygu capasiti'r sector ag y bydd ar adfer mawnogydd, trwy fuddsoddi mewn sgiliau, contractwyr a seilwaith fydd yn hanfodol i gynnal y rhaglen fawnogydd a rhaglenni eraill yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tiroedd gwlybion yn ardal Llanelli

"Bydd ein gallu i gyrraedd targedau 'Statws Carbon Sero-Net erbyn 2030: Trywydd Sector Cyhoeddus Cymru' (Llywodraeth Cymru 2021) yn dod i'r amlwg wrth i'r NPAP fynd yn ei blaen ac wrth i ni nesáu at yr adolygiad ffurfiol ym mlwyddyn 4 (2024).

"Byddwn yn cadarnhau cynlluniau'r cymal nesaf (2025-2030) cyn diwedd cyfnod y gyllideb garbon hon i sicrhau bod cymaint o fawnogydd Cymru mewn cyflwr da, yn unol â'n nod i ddod yr holl fawnogydd sy'n cynnal cynefin lled-naturiol o dan reolaeth gynaliadwy."

Creu coetiroedd

"Mae coetiroedd newydd yn dal ac yn storio carbon ac mae eu creu'n rhan allweddol o'n cynllun sero net. Mae angen i ni blannu amrywiaeth o goetiroedd yng Nghymru, gan gynnwys rhai i gynhyrchu pren.

"Bydd pren a ddefnyddir mewn sectorau fel adeiladu yn storio carbon am ddegawdau lawer ac i gwrdd â'r targed sero net, bydd angen i'r sectorau hyn ddefnyddio mwy o bren yn lle deunyddiau ynni-ddwys fel dur a choncrit."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Coed y Brenin ger Dolgellau. Mae plannu mwy o goed yn allweddol ar gyer y dyfodol, meddai Llywodraeth Cymru.

"Mae 80% o'r pren sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU yn cael ei fewnforio, felly mae angen i ni dyfu mwy yng Nghymru.

"Rydyn ni'n gytûn fod angen plannu'r coed iawn yn y llefydd iawn ac mae gan Gymru system effeithiol i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rydyn ni newydd gyhoeddi fersiwn newydd o'r Map Cyfle Coetir sy'n dangos y llefydd gorau i blannu coed."