Ymchwilio i ystyried ailagor rheilffordd ar draws Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil yn cael ei wneud i ystyried a ddylid ailagor rheilffordd 18 milltir o hyd rhwng Gaerwen ac Amlwch i drenau.
Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie, wedi llwyddo i gael £100,000 ar gyfer y gwaith ymchwil, fydd yn trafod nifer o opsiynau i'r lein.
Cafwyd £50,000 drwy'r Adran Drafnidiaeth yn Llundain, ac fe roddodd Llywodraeth Cymru yr hanner arall.
Dywedodd Ms Crosbie ei bod yn hynod o falch eu bod nhw wedi bod yn llwyddiannus yn cael yr arian.
'Dod â bywyd yn ôl i'r lein'
"Mae'n newyddion gwych i'r ynys am lein Gaerwen i Amlwch - diolch yn fawr i bawb sydd wedi helpu," meddai.
"Dwi'n edrych ymlaen at gael gweld beth fydd canlyniadau'r ymchwil. Mae angen i ni ddarganfod y ffordd orau i ddod â bywyd yn ôl i'r lein 'ma."
Mae Cyngor Môn am weld y bron i 18 milltir o drac yn ailagor i drenau unwaith eto, ac yn ddelfrydol, llwybr beics yn cael ei sefydlu i gydredeg hefo'r trac.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry, llefarydd ar ran y cyngor: "Mae blynyddoedd wedi bod ers bu sôn am gael y trên yn ôl ar y lein a dwi'n meddwl efallai 'efo'r arian yma y bydd modd ymchwilio i mewn faint yn union fydd y gost a faint o waith fydd o.
"Ein penderfyniad ni ydy y dylai hi fynd yn rheilffordd. Daw hi â lot fawr o arian i mewn i economi'r sir.
"Y piti mwya' ydy 'na 'sa modd gwneud llwybr beics wrth ei hochr hi hefyd. Fase chi'n medru cael dau ddefnydd allan o'r coridor pwysig yma trwy ganol Ynys Môn."
Mae 'na drafod wedi bod am flynyddoedd ynglŷn â'r posibilrwydd o ailagor y lein rhwng Gaerwen ac Amlwch, a beth bynnag fydd canlyniad yr ymchwil, mi fyddai'n costio llawer iawn o arian i wireddu unrhyw gynlluniau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2021
- Cyhoeddwyd30 Awst 2020