Tân gwyllt: 'Peidiwch â chynnal digwyddiad answyddogol'

  • Cyhoeddwyd
Tân gwylltFfynhonnell y llun, Rosemary Calvert
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y bydd mwy o ddigwyddiadau answyddogol yn cael eu cynnal eleni oherwydd y pandemig

Mae rhybuddion i bobl beidio â chynnal digwyddiadau tân gwyllt answyddogol eleni, wrth i ymchwil elusen awgrymu bod nifer fawr yn bwriadu gwneud hynny.

Mae ymchwil gan yr RSPCA yn dangos bod 44% o bobl yn bwriadu cynnau tân gwyllt yng Nghymru, neu'n bwriadu mynychu digwyddiad answyddogol yng ngerddi teulu neu ffrindiau.

Mae'r Gwasanaeth Tân yn dweud bod yna "beryglon difrifol" yn gysylltiedig â chynnau tân gwyllt ac maen nhw'n poeni y gall mwy o bobl gael eu hanafu.

Dywedodd hyfforddwr cŵn bod effeithiau digwyddiadau tân gwyllt answyddogol ar anifeiliaid "yn gallu para am wythnosau" ac weithiau'n gallu arwain at gŵn yn methu â gweithio fel ci tywys byth eto.

Oherwydd y pandemig mae'n debygol y bydd llai o arddangosfeydd tân gwyllt swyddogol nos Wener, ac mae pobl yn poeni am yr effaith gall digwyddiadau answyddogol gael ar anifeiliaid.

Dywedodd Sian Menai Jones, sy'n hyfforddi cŵn yng Nghaerdydd, bod tân gwyllt yn gallu arwain at rai o'i chŵn yn methu â gweithio eto oherwydd y "trawma".

"Mae'r sioc yn medru parhau fel ei bod hi'n bosib na allan nhw fod yn gi tywys - oherwydd eu bod yn cael gormod o drawma o'r profiad," meddai.

"Dio ddim jyst yn parhau am un noson, mae'n parhau am tua pythefnos. Mae pobl wedi dechra' gollwng nhw yng nghanol y dydd ac mae'n anodd i ni eu hosgoi nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Menai Jones yn meddwl y dylai pobl roi gwybod i gymdogion os ydynt am gynnau tân gwyllt

Y llynedd roedd Ms Jones yn hyfforddi ei chŵn yn Llanrhymni pan gynnwyd tân gwyllt o'i blaen hi a'i chi.

"Nes i droi tuag at gyfeiriad y stryd fawr ac roedd 'na bang rili fawr," meddai.

"Nes i sbïo fyny a thua 40 metr o'n blaen ni roedd tân gwyllt newydd gael eu tanio - display go iawn.

"Roedd Hector [y ci] rili wedi dychryn, ac o'dd o'n trio rhedeg i ffwrdd ac roedd yn rhaid i fi afael yn dynn ar ei lead o a jest cael o o'na mor sydyn ag o'n i'n medru."

'Angen bod yn feddylgar'

Yn ôl ymchwil yr RSPCA mae 44% o bobl yn bwriadu cynnau tân gwyllt ei hunan eleni, o'i gymharu â 25% o bobl sy'n bwriadu mynd i ddigwyddiad tân gwyllt swyddogol.

Mae'r elusen yn poeni y gall cynnydd yn nifer y digwyddiadau answyddogol effeithio ar les anifeiliaid.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Hector (dde) ei effeithio'n wael gan dân gwyllt yn cael eu cynnau'n answyddogol tra'n hyfforddi i fod yn gi tywys

Mae Ms Jones o'r farn bod angen i bobl fod yn feddylgar wrth feddwl am fynychu digwyddiadau ac ystyried lles anifeiliaid.

"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig i bobl fwynhau eu hunain ond mae angen bod yn gwrtais," meddai.

"Os ydyn nhw am danio nhw yn eu gardd gefn, jest i ddeud wrth gymdogion o flaen llaw faint o'r gloch maen nhw'n meddwl gwneud a holi a oes ganddyn nhw anifeiliaid - achos nid dim ond cŵn sy' ofn tân gwyllt."

Nos Iau fe gynhaliwyd digwyddiad ym Mharc Trelai yng Nghaerdydd o'r enw 'Lights in the Park', oedd yn addas ar gyfer anifeiliaid ac yn cynnig "opsiwn gwahanol" i dân gwyllt - yn ôl disgrifiad y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o ddigwyddiadau tân gwyllt wedi cael eu canslo eto eleni oherwydd y pandemig

Mae'r Gwasanaeth Tân hefyd wedi rhybuddio pobl i beidio â mynychu digwyddiadau tân gwyllt answyddogol.

Mewn datganiad dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Mae yna beryglon difrifol sy'n gysylltiedig â choelcerthi, yn enwedig rhai sydd ddim wedi eu trefnu'n swyddogol.

"Rydyn ni eisiau bod yn hollol glir wrth ddweud ein bod yn gofyn i bobl beidio â chynnau coelcerthi eleni ac efallai i edrych am ffyrdd gwahanol o fwynhau eu hunan neu i fwynhau digwyddiad swyddogol.

"Mae Noson Tân Gwyllt wastad yn amser prysur iawn i'r gwasanaethau brys. I ni, yn aml mae'n rhaid i ni fynd i leoliad coelcerthi sydd wedi mynd allan o reolaeth - weithiau'n achosi anafiadau difrifol a difrod i eiddo."

Ychwanegon nhw eu bod yn poeni am bobl yn camddefnyddio tân gwyllt ac y dylai unrhyw un sy'n bwriadu eu cynnau nhw ddilyn y cod tân gwyllt sydd ar wefan y Gwasanaeth Tân a'u prynu nhw o siop ddibynadwy.

Pynciau cysylltiedig