Yr enwau unigryw ar blant Cymru yn 2020

  • Cyhoeddwyd
teuluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pa enwau Cymraeg ar fabis oedd lleiaf poblogaidd yn 2020?

Yn 2020, Erin oedd yr enw Cymreig mwyaf poblogaidd ar ferched yng Nghymru gydag 89 Erin yn dod i'r byd, ac Arthur oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar fechgyn gyda 173 Arthur.

Ond beth am yr enwau Cymreig lleiaf poblogaidd?

Mae Cymru Fyw wedi bod yn edrych ar restrau'r Swyddfa Ystadegau (ONS) i ganfod yr enwau Cymraeg a Chymreig lleiaf cyffredin yn 2020.

Dyma'r rhestrau ar gyfer merched a bechgyn, gyda nifer y plant a gafodd yr enw mewn cromfachau.*

20 enw Cymraeg lleiaf cyffredin ar ferched yn 2020, yn nhrefn yr wyddor:

Arianwyn (3)

Awel (4)

Beryl (3)

Briallen (3)

Begw (5)

Deryn (5)

Eirys (3)

Elain (3)

Eirwen (5)

Elen (5)

Eluned (4)

Glain (3)

Glesni (4)

Gwyneth (4)

Heledd (5)

Lleucu (4)

Llio (3)

Maelys (3)

Mena (4)

Swyn (5)

Mae Heledd yn un o'r enwau hynaf yn y Gymraeg, a Heledd ferch Cyndrwyn oedd y ferch gyntaf i gael ei henwi o fewn llenyddiaeth Gymraeg. Mae'n debyg mai tywysoges Teyrnas Powys ac Amwythig oedd Heledd, a'i llais galarus hi y clywn yng nghanu Heledd, cerddi sy'n dyddio 'nôl i'r 9fed neu 10fed ganrif.

Disgrifiad o’r llun,

Sut mae'r gyflwynwraig Heledd Cynwal yn teimlo am y ffaith mai dim ond 5 Heledd a anwyd yn 2020?

Yn ôl ar y rhestr eleni mae'r enw Glesni, gyda phedair o enethod wedi eu henwi'n Glesni yn 2020. Ni ymddangosodd Glesni o gwbl ar y rhestr yn 2019, er bod tair wedi cael yr enw yn 2018.

Ganwyd 17 Enfys yn 2019, a dim ond wyth Enfys yn 2020. Efallai bod y gostyngiad yma'n annisgwyl wrth ystyried i 'enfys' ddod yn symbol amlwg o obaith ynghanol cyfnodau anodd y pandemig yn 2020.

20 o enwau Cymraeg lleiaf cyffredin ar fechgyn yn 2020, yn nhrefn yr wyddor:

Cellan (4)

Dei (3)

Deri (4)

Eifion (4)

Gwern (4)

Glyn (3)

Gruff (3)

Gwil (3)

Hedd (3)

Hefin (4)

Ifor (4)

Llyr (4)

Lleu (3)

Llion (3)

Math (4)

Selwyn (3)

Teifion (3)

Tecwyn (3)

Twm (4)

Wyn (4)

Enw na ymddangosodd ar y rhestr eleni oedd Glyndwr. Cafodd tri bachgen yr enw Glyndwr yn 2019, gyda enw'r tywysog Cymreig yn ymddangos ar y rhestr yn 2019 am y tro cyntaf ers o leiaf 20 mlynedd!

Ystyr Deri yw derwen, ac mae deri hefyd yn air hynafol. Allan o flodau'r deri, banadl ac erwain y crëwyd Blodeuwedd gan hudlath Gwydion yn chwedl Math.

Mae'r enw Geraint wedi colli poblogrwydd. Ganwyd 41 Geraint yn 1998, dim ond pump Geraint yn 2019, ond does 'run Geraint ar restr 2020.

Ffynhonnell y llun, Deri Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y gwyddonydd Deri Tomos enw unigryw iawn; dim ond 3 Deri a anwyd yn 2020.

Mwy o fanylion...

Mae'r rhestrau uchod yn cynnwys enwau cyntaf plant gafodd eu geni yng Nghymru a Lloegr yn 2020.

*Er mwyn diogelu cyfrinachedd unigolion, dydy Swyddfa'r Ystadegau ddim yn rhyddhau gwybodaeth pan fo dim ond un neu ddau o blant wedi derbyn enw penodol.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig