Cyhuddo dyn wedi digwyddiad yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Police in Church Street, Cardiff

Mae dyn 19 oed a gafodd ei arestio wedi digwyddiad yng nghanol Caerdydd ddydd Gwener wedi cael ei gyhuddo o ymosod a bod â gwrthrych miniog yn ei feddiant.

Mae Ania Hernandez o ardal Cathays yng Nghaerdydd wedi ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd ger bron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Mae'r ddau ddyn a gafodd eu hanafu yn parhau yn yr ysbyty ac yn cael triniaeth am anafiadau na sy'n bygwth eu bywyd.

Pynciau cysylltiedig