Dyn yn euog o lofruddio merch ysgol 16 oed yn Ynyswen

  • Cyhoeddwyd
Wenjing LinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Wenjing Lin yn nhŷ bwyta Chineaidd ei theulu

Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio merch 16 oed mewn bwyty Chineaidd yn Rhondda Cynon Taf.

Bu farw Wenjing Lin yn nhŷ bwyta Blue Sky yn Ynyswen ger Treorci ar 5 Mawrth eleni.

Roedd Chun Xu wedi cyfaddef dynladdiad y ferch ysgol, ond roedd yn gwadu ei llofruddio.

Mae'r rheithgor hefyd wedi ei gael yn euog o geisio llofruddio gŵr mam Ms Lin, Yongquan Jiang.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, Dimitris Legakis/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Chun Xu yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.

Mae'r barnwr wedi rhybuddio ei fod yn wynebu dedfryd o garchar am oes, a byddai cyfnod "o flynyddoedd maith" cyn y bydd â'r hawl i geisio am barôl.

Penderfynodd Xu ddydd Llun nad oedd am roi tystiolaeth yn yr achos yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn Tom Crowther QC wrth y rheithgor ei fod "am weithredu ei hawl i beidio rhoi na galw am dystiolaeth yn yr achos hwn".

Llofruddiwr wedi 'torri' teulu

Dywedodd mam Wenjing Lin, Meifang Xu, fod bywydau'r teulu wedi eu troi yn "wyneb i waered".

Disgrifiad o’r llun,

Meifang Xu gyda'i gŵr, Yongquan Jiang a oroesodd yr ymosodiad a laddoddd ei merch, Wenjing Lin.

"Dydw i dal ddim yn gallu deall pam wnaeth y troseddwr hwn i hi," meddai hi.

"Fedra i ddim dychmygu sut fydd fy mywyd hebddi hi. Hi oedd fy unig blentyn. Mae'r troseddwr wedi torri ein teulu ni."

Dywedodd hi fod Wenjing Lin wedi ennill gradd 'A' ym mhob un o'i hasesiadau TGAU, "ond bydd hi erioed yn cael gwybod y canlyniad weithiodd hi mor galed ar ei gyfer."

"Roedd hi'n ferch hapus iawn, iawn, ac roedd ei ffrindiau yn ei charu hi," meddai ei mam.

Dywedodd hi ei bod hi'n falch i weld cyfiawnder yn dilyn yr euogfarn ddydd Mawrth.

Pynciau cysylltiedig