Gwahardd cefnogwr o gemau rygbi yn Stadiwm Principality am oes

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth y dyn ymlaen i'r cae wrth i Liam Williams geisio sgorio cais yn yr ail hanner

Mae dyn wedi ei wahardd o Stadiwm Principality am oes wedi iddo gamu i'r cae yn ystod gêm Cymru yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn.

Gyda'r sgôr yn gyfartal 15-15 ar y pryd, fe redodd y gŵr 28 oed ymlaen i'r maes tra bod Cymru yn ymosod, cyn cael ei daclo gan stiwardiaid.

Roedd yna gryn anniddigrwydd ymhlith y dorf wrth i'r dyn gael ei dywys oddi ar y cae ac allan o'r stadiwm.

Fe aeth De Affrica ymlaen i ennill y gêm 18-23.

Dywedodd Rheolwr Stadiwm Principality, Mark Williams eu bod nhw wedi cydweithio â Heddlu'r De er mwyn gallu adnabod yr unigolyn dan sylw.

"Mae Undeb Rygbi Cymru, Stadiwm Principality a Heddlu'r De yn condemnio ymddygiad o'r fath yn llwyr, ac mae'r unigolyn yma wedi ei wahardd rhag prynu tocynnau i unrhyw gemau rygbi sy'n cael cynnal yn Stadiwm Principality gan Undeb Rygbi Cymru yn y dyfodol," meddai.

'Ystyried mesurau ychwanegol'

Ychwanegodd Mr Williams: "Rydyn ni wedi ein siomi yn arw i weld bod yr unigolyn yn chwaraewr ac yn aelod o glwb rygbi, ac mae Undeb Rygbi Cymru bellach yn ymchwilio i achos posib o dorri'r cod ymddygiad.

"O ganlyniad i ddigwyddiadau diweddar mae'r profiad traddodiadol o fod mewn gem rygbi dan fygythiad - ac o ganlyniad mae'n bosib y bydd rhaid i ni ystyried cyflwyno mesurau ychwanegol allai effeithio ar brofiad cefnogwyr yn y dyfodol.

Yr wythnos cyn y digwyddiad, bu'n rhaid tywys dyn arall oddi ar y cae.

Roedd Daniel Jarvis wedi ymuno â thîm y Crysau Duon yn ystod yr anthemau ar ddechrau eu gêm yn erbyn Cymru.