Cyfres yr Hydref: Cymru 18-23 De Affrica

  • Cyhoeddwyd
Wales v South AfricaFfynhonnell y llun, PA Media

Roedd perfformiad Cymru yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn yn galonogol ond fe wnaeth cais hwyr Malcolm Marx sicrhau buddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Gêm o giciau cosb oedd yr hanner cyntaf - fe sgoriodd Dan Biggar y gyntaf wedi deg munud gan roi Cymru ar y blaen o 3 i 0.

O fewn dwy funud cic gosb lwyddiannus i Dde Affrica, wedi 14 munud Dan Biggar yn dyblu sgôr Cymru, wedi 18 munud Handré Pollard yn dod â De Affrica yn gyfartal ac yna dwy gic gosb arall i Dan Biggar gan ymestyn mantais Cymru o chwe phwynt.

Ond cyn hanner amser fe lwyddodd Handré Pollard i gwtogi'r mantais ac roedd Cymru driphwynt ar y blaen ar hanner amser (12-9).

Patrwm tebyg oedd yn yr ail hanner - Dan Biggar yn ymestyn y mantais eto o driphwynt wedi 51 munud (15-9) ac o fewn pedair munud Frans Steyn yn sicrhau triphwynt i Dde Affrica(15-12).

Wedi awr o chwarae y ddau dîm yn gyfartal wrth i droed Handré Pollard gicio'n gywir unwaith eto.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Toc wedi awr o chwarae cyfle i WillGriff John ennill ei gap cyntaf ac roedd hi'n edrych fel petai Liam Williams yn mynd i sgorio ond amharwyd ar hynny wrth i rywun fynd ar y cae ac roedd cefnogwyr Cymru yn hynod flin.

Wedi 67 munud triphwynt gan Biggar i Gymru ac roedd hi'n ymddangos bod De Affrica wedi sgorio cais ond ni chafodd ei ganiatáu a thro cefnogwyr y Springboks oedd bod yn flin y tro hwn. Ond fe ddaeth cais iddyn nhw gan Malcolm Marx o fewn munudau gan roi'r ymwelwyr ar y blaen (18-20) - fe fethodd Elton Jantjies â chicio drwy'r pyst.

Wedi 80 munud ym merw Stadiwm y Principality gôl gosb arall i'r ymwelwyr a De Affrica felly yn ennill (18-23).

Seland Newydd oedd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref eleni, a nesaf bydd Ffiji ac Awstralia yn cael eu croesawu i'r brifddinas ar 14 a 20 Tachwedd.