Hanes yr ymgyrch i achub dyn o ogof Ffynnon Ddu

  • Cyhoeddwyd
George LinnaneFfynhonnell y llun, Mark Burkey
Disgrifiad o’r llun,

George Linnane o Fryste yw'r dyn gafodd ei achub

Fe ddaeth un o'r ymgyrchoedd hiraf erioed i achub person o ogof i ben yn llwyddiannus nos Lun pan gafodd dyn fu'n sownd yn ogofeydd Ffynnon Ddu ei gludo i'r wyneb.

Mae'r BBC bellach wedi cael ar ddeall mai George Linnane oedd y dyn gafodd ei achub.

Roedd wedi disgyn yn yr ogof ger Penwyllt ym Mhowys brynhawn Sadwrn gan ddioddef anafiadau niferus, ond dywedwyd ei fod mewn hwyliau da pan gafodd ei dynnu o'r ogof nos Lun.

Bu Steve Thomas o Dîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru yn disgrifio rhai o'r profiadau.

"Ro'n i'n gorwedd mewn twnnel ar un cyfnod... roedd acen Sir Efrog un ochr i mi, acen o Wlad yr Haf yr ochr arall ac acen Wyddelig gyferbyn â mi... roedd e'n fater o bawb yn dod at ei gilydd i helpu," meddai.

Mae 16 o dimau achub ogof ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban, ac maen nhw fel rheol yn gweithredu'n unigol yn eu hardaloedd.

"Ond bob hyn a hyn, ry'ch chi'n cael sefyllfa fel hyn," ychwanegodd Mr Thomas, "gyda'r timau eraill i gyd yn uno ar broblem fawr."

Mae rhwydwaith Ogof Ffynnon Ddu yn ganolfan i ogofwyr profiadol, ac mae angen trwyddedau i fentro iddi.

Mae'n un o'r rhwydweithiau dyfnaf a hiraf yn y DU, gyda'r darnau isaf rhyw 274m islaw'r wyneb. Mae'n cael ei ystyried yn heriol hyd yn oed i ogofwyr profiadol.

Ffynhonnell y llun, South and Mid Wales Cave Rescue Team

Roedd Mr Linnane yn "ogofwr ffit, profiadol" ac wedi mynd yno gyda'i bartner cyn iddo ddisgyn. Daeth yn amlwg ei fod wedi dioddef anafiadau difrifol i'w goes, ei frest a'i wyneb a doedd dim modd iddo ddod allan heb gymorth.

Yn ôl Steve Thomas, mae damweiniau fel hyn yn gallu digwydd i'r ogofwyr mwyaf profiadol. "Gall carreg anferth aros yn yr un lle am 10,000 o flynyddoedd, ac yna un diwrnod fe wnaiff symud... dyna fel mae hi," meddai.

Yr her oedd ei gael allan yn ddiogel, a dyna pryd aeth yr alwad i dimau achub ar draws y DU am gymorth.

"Mae ogofeydd yn bethau naturiol," medd Steve Thomas. "Does dim llwybrau troed yn unman... maen nhw'n rhyfeddodau daearegol, ond yn llawn creigiau, rhaeadrau a thyllau, ac mae'n rhaid mynd drwyddyn nhw i gyd mewn ffordd wahanol."

Ffynhonnell y llun, South and Mid Wales Cave Rescue Team/PA Media

Erbyn amser cinio ddydd Llun, roedd y timau achub wedi llwyddo i gludo Mr Linnane tuag at fynedfa uchaf yr ogofeydd, ac roedd e'n medru siarad gyda'r achubwyr.

Roedd yr ymgyrch eisoes wedi para'n hirach na'r un arall yng Nghymru, gan basio'r record flaenorol o 41 awr.

Er iddi gymryd rhai oriau yn rhagor cyn ei gael allan o'r ogof, roedd pethau'n fwy gobeithiol. Roedd meddyg yn monitro'i gyflwr drwy'r adeg, ac roedd y timau yn ei gadw'n gynnes ac yn gofalu ei fod yn cael bwyd a diod.

Erbyn 20:00 nos Lun daeth yr ymgyrch i ben yn llwyddiannus. Oherwydd amodau'r tywydd ym Mannau Brycheiniog bryd hynny, doedd dim modd i hofrennydd lanio gerllaw, a bu'n rhaid cludo Mr Linnane i'r ysbyty mewn cerbyd Land Rover.

Ar ddiwedd yr ymgyrch ryfeddol, roedd 70 o wirfoddolwyr yn dal o dan ddaear ynghyd ag arbenigwyr meddygol.