Alex Cuthbert yn dychwelyd i Gymru i herio Fiji

  • Cyhoeddwyd
Ellis JenkinsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Ellis Jenkins fydd capten Cymru wedi iddo ddisgleirio yn erbyn De Affrica

Bydd yr asgellwr Alex Cuthbert yn chwarae i Gymru am y tro cyntaf ers pedair blynedd wrth i Wayne Pivac gyhoeddi pum newid i'r tîm fydd yn herio Fiji ddydd Sul.

Ymhlith yr olwyr bydd Liam Williams yn dychwelyd fel cefnwr, Kieran Hardy fel mewnwr a Johnny Williams yn y canol.

Bydd blaenasgellwr Wasps, Thomas Young, yn dychwelyd fel yr unig newid ymysg y blaenwyr.

Wedi iddo chwarae am y tro cyntaf ers tair blynedd yn erbyn De Affrica y Sadwrn diwethaf, bydd Ellis Jenkins yn gapten ar Gymru yn absenoldeb Alun Wyn Jones.

Dan Biggar sy'n parhau yn faswr tra bod Josh Adams yn symud o'r asgell i'r canol.

Ar y fainc y bydd blaenwr Caerwysg, Christ Tshiunza gan obeithio ennill ei gap cyntaf.

Dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac: "Ry'n ni am allu defnyddio'r garfan lle gallwn ni, ond yn nhermau'r blaenwyr does dim llawer o ddewis gyda ni oherwydd anafiadau ac argaeledd.

"Yr un cyffrous i mi yw rhoi cyfle i Josh Adams [yn y canol]. Mae hynny yn edrych i'r dyfodol.

"Pan mae'n rhaid i chi ddewis carfan o 33 ar gyfer Cwpan y Byd mae'n rhaid i chi gael chwaraewyr sy'n medru chwarae mewn mwy nag un safle... ry'n ni wedi bod eisiau gwneud hynny ers tro felly gawn ni weld sut hwyl gaiff Josh yng nghanol cae.

"Mae dod ag Alex Cuthbert i mewn ynghyd â Louis Rees-Zammit yn ymateb i'r cyflymder fydd gan Fiji, ac mae'n rhaid i ni fedru paru hynny."

Cymru: L Williams; Cuthbert, Adams, J Williams, Rees-Zammit; Biggar, Hardy; Carre, Elias, Francis, Rowlands, Beard, Jenkins (capt), Young, Basham.

Eilyddion: Roberts, Thomas, John, Tshiunza, Davies, T Williams, Sheedy, Tompkins.