Dros 6,000 yn debygol o fod wedi dal Covid mewn ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae cais rhyddid gwybodaeth wedi datgelu ble mae'r problemau mwyaf wedi bod o ran trosglwyddo Covid mewn ysbytai, gydag Ysbyty Treforys wedi cofnodi mwy o lawer nag unrhyw safle arall.
Fe wnaeth pob bwrdd iechyd oni bai am Hywel Dda ymateb i gais Newyddion S4C, gan ddatgelu faint o gleifion gafodd eu heintio mewn ysbytai o ddechrau'r pandemig hyd at fis Awst eleni.
Mae'r ffigyrau'n dangos fod 6,253 achos o heintio tebygol mewn ysbytai wedi bod, gyda 62% o'r rheiny yn "sicr" o fod wedi dal y feirws yn yr ysbyty.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y GIG wastad wedi dilyn canllawiau'r DU ar gyfer atal a rheoli Covid-19 mewn ysbytai.
Diffiniad byrddau iechyd o achosion "tebygol" ydy prawf positif am Covid rhwng saith a 14 diwrnod ar ôl mynd i'r ysbyty, ac achosion "sicr" ydy'r rheiny a ddaeth i'r amlwg 14 diwrnod neu fwy ar ôl mynd i'r ysbyty.
Cwm Taf Morgannwg ydy'r bwrdd iechyd sydd wedi gweld y nifer fwyaf o achosion yn deillio o ysbytai - 1,021 o achosion sicr a 706 yn rhagor o achosion tebygol.
Ond pan yn edrych ar ysbytai unigol, mae Treforys ar gyrion Abertawe wedi gweld mwy o lawer o achosion nag unrhyw ysbyty arall.
Yno, cofnodwyd 419 o achosion sicr a 403 o achosion tebygol, gyda'r mwyafrif llethol o'r rheiny wedi'u cofnodi yn ystod yr ail don.
Yn ôl Tom Giffard AS, sy'n cynrychioli'r rhanbarth sy'n cynnwys Ysbyty Treforys, mae'r ystadegau yn sioc, ac yn pwysleisio'r angen am ymchwiliad Covid penodol i Gymru.
"Bydd hwn yn sioc fawr i bobl sydd yn mynd i Ysbyty Treforys ac yn byw yn Abertawe," meddai.
"Mae'n bwysig ein bod ni fel Aelodau'r Senedd a phobl sydd gartref yn darllen hwn yn gwybod beth aeth yn iawn a beth allwn ni 'neud yn well yn y dyfodol.
"Mae'n rhaid i ni gael atebion Cymreig i hynny. Mae'n rhaid i ni gael ymchwiliad sydd yn edrych mewn iddo fe drwy lens Gymreig i weithio hynny mas."
'Ddim wedi paratoi'
Ychwanegodd Dr Phil White ar ran Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru fod angen "ymchwiliad trylwyr" i'r ffigyrau.
"Rydyn ni angen i hynny ddigwydd fel ein bod wedi paratoi ar gyfer y tro nesaf, ac mi fydd 'na dro nesaf," meddai.
"Dim ond mater o amser oedd hi cyn i hyn ddigwydd, a dim ond mater o amser yw hi nes daw'r haint nesaf.
"Mae'n rhaid i ni baratoi ar gyfer hynny - doedden ni ddim wedi paratoi y tro hwn."
Sawl achos sydd wedi deillio o ysbytai?
Byrddau iechyd
Aneurin Bevan: 743 sicr, 366 tebygol. Cyfanswm o 1,109 - 67% yn sicr
Betsi Cadwaladr: 750 sicr, 487 tebygol. Cyfanswm o 1,237 - 61% yn sicr
Caerdydd a'r Fro: 577 sicr, 320 tebygol. Cyfanswm o 897 - 64% yn sicr
Cwm Taf Morgannwg: 1021 sicr, 706 tebygol. Cyfanswm o 1,727 - 59% yn sicr
Bae Abertawe: 718 sicr, 467 tebygol. Cyfanswm o 1,185 - 61% yn sicr
Powys: 65 sicr, 21 tebygol. Cyfanswm o 86
Felindre: 7 sicr, 5 tebygol. Cyfanswm o 12
Ysbytai
Nevill Hall: 127 sicr, 98 tebygol
Brenhinol Gwent: 313 sicr, 222 tebygol
Gwynedd: 179 sicr, 111 tebygol
Glan Clwyd: 219 sicr, 146 tebygol
Wrecsam Maelor: 276 sicr, 179 tebygol
Athrofaol Cymru: 287 sicr, 240 tebygol
Llandochau: 172 sicr, 56 tebygol
Tywysog Siarl: 223 sicr, 198 tebygol
Tywysoges Cymru: 266 sicr, 201 tebygol
Brenhinol Morgannwg: 331 sicr, 301 tebygol
Treforys: 419 sicr, 403 tebygol
Singleton: 127 sicr, 38 tebygol
Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, sy'n gyfrifol am Ysbyty Treforys, eu bod wastad "wedi cadw at reolau llym y llywodraeth ar atal a rheoli Covid-19".
"Ond, fel nifer o ysbytai eraill ledled y DU, mae nifer o bobl wedi cael Covid-19 yn ein hysbytai, gan gynnwys Treforys, er gwaethaf y mesurau yma," meddai'r datganiad.
"Rydym yn parhau i wasanaethu cleifion sydd â Covid-19 yn ogystal â'r rheiny sydd angen gwasanaethau allweddol eraill.
"Ond mae lefelau uchel o'r haint yn y gymuned yn ardal Bae Abertawe yn golygu ei bod yn her barhaus i gadw'r haint mas o'n hysbytai prysur."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y GIG wastad wedi dilyn canllawiau'r DU ar gyfer atal a rheoli Covid-19 mewn ysbytai.
"Er gwaethaf yr holl fesurau hyn i amddiffyn staff a chleifion mewn ysbytai, yn anffodus mae pobl wedi dal coronafeirws tra yn yr ysbyty ac, yn anffodus iawn, mae rhai wedi marw," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021