AS Llafur: Ymchwiliad Covid i Gymru'n 'fater moesol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
staff meddygolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Aelod Seneddol Llafur yn dweud y dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus Covid penodol i Gymru.

Dywed AS Islwyn, Chris Evans bod gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid gwestiynau "sydd angen eu hateb".

Yn wahanol i'r Alban, dyw gweinidogion Cymru ddim yn trefnu ymchwiliad ar wahân i'r un sy'n edrych ar yr ymateb i'r pandemig ar draws y DU.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fis diwethaf ei bod wedi cael sicrwydd gan Boris Johnson y bydd "dimensiwn Cymreig penodol" i'r ymchwiliad ehangach.

Ond yn ôl Mr Evans fe ddylai Mr Drakeford orchymyn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yng Nghymru, gan ddilyn esiampl Yr Alban.

"Mae'r GIG wedi ei ddatganoli i Gymru," meddai wrth raglen Wales Live. "Rydym wedi cael y neges gydol y pandemig bod yr ymateb yn cael ei rheoli trwy Gaerdydd.

"Rhaid cael rhyw fath o ymchwiliad... mae dros 7,000 o farwolaethau wedi eu cofnodi."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru'n gyflym a chywir, medd Chris Evans - ond mae cwestiynau angen eu hateb

Ychwanegodd: "Er tegwch i'r llywodraeth roedden nhw'n wynebu pandemig ar raddfa nad oedden ni wedi ei weld o'r blaen, nid ers y ffliw Sbaenaidd yn y 1920au.

"Roedd eu hymateb yn gyflym, roedd yn gywir, ond rwy'n meddwl bod yna gwestiynau o hyd a materion y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw, rwy'n meddwl, dan ymchwiliad Cymru gyfan ble rydym yn edrych yn benodol ar faterion yma yng Nghymru."

'Nid mater gwleidyddol'

Ym marn Mr Evans, mae Mr Drakeford wedi bod yn "sympathetig iawn" tuag at ymgyrchwyr o'r grŵp Covid-19 Bereaved Families For Justice Cymru ar ôl cwrdd â nhw, ac yn meddwl bod y mater yn "rhywbeth fydd yn cael ei ystyried eto".

Ychwanegodd: "Mae wnelo hyn â theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid ac mae gyda nhw gwestiynau y mae angen eu hateb.

"Dydw i ddim yn meddwl bod hwn yn fater gwleidyddol, mae'n fater moesol."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi galw am ymchwiliad Covid Cymreig ers misoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd gan ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan y capasiti a'r grym i oruchwylio natur cysylltiedig penderfyniadau sydd wedi eu gwneud ar draws y pedair gwlad.

"Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn [Michael Gove] ynghylch y materion penodol niferus y mae'n rhaid i'r ymchwiliad ganolbwyntio arno i ddelio'n gynhwysfawr â gweithredoedd Llywodraeth Cymru."