Dyn, 18, yn pledio'n ddieuog i lofruddio yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed wedi pledio'n ddieuog i drywanu Kyle Walley i farwolaeth yn Wrecsam yn gynharach eleni.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener cafodd Mark Jones o Wrecsam, ei gadw yn y ddalfa.
Bu farw Mr Walley, 19, yn dilyn digwyddiad yn ei gartref yn Eglwysfan, Rhosymedre, ar 11 Gorffennaf.
Cafodd ei ganfod gan swyddogion heddlu ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw i'r tŷ.
Mae disgwyl i'r achos yn erbyn Mr Jones ddechrau ar 31 Ionawr 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2021