Carchar am oes i lofrudd merch 16 oed mewn bwyty Chineaidd

  • Cyhoeddwyd
Wenjing LinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Wenjing Lin yn nhŷ bwyta Chineaidd ei theulu

Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio merch 16 oed mewn bwyty Chineaidd yn Rhondda Cynon Taf.

Cafwyd Chun Xu, 32, yn euog o lofruddiaeth yr wythnos hon, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 30 mlynedd yn y carchar.

Bu farw Wenjing Lin yn nhŷ bwyta Blue Sky yn Ynyswen ger Treorci ar 5 Mawrth eleni.

Roedd Xu wedi cyfaddef dynladdiad y ferch ysgol, ond roedd yn gwadu ei llofruddio.

Fe wnaeth rheithgor hefyd gael Xu yn euog o geisio llofruddio gŵr mam Ms Lin, Yongquan Jiang.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Fe wnaeth Xu wrthod mynd i'r llys ar gyfer y gwrandawiad dedfrydu.

Dywedodd y barnwr ei fod wedi "llofruddio merch ddiniwed 16 oed fel ffordd o ddial ar ei mam".

Clywodd y llys yn ystod yr achos fod Xu mewn dyled o £14,000 i deulu Wenjing.

Doedden nhw ddim yn perthyn trwy waed ond yn y gorffennol roedd Xu wedi cael ei ystyried yn nai i fam Wenjing, ac roedd yna dipyn o anghydweld wedi bod rhwng eu teuluoedd.

'Mae wedi torri ein teulu'

Dywedodd mam Wenjing Lin, Meifang Xu, ddydd Mawrth fod bywydau'r teulu wedi eu troi "wyneb i waered".

"Dydw i dal ddim yn gallu deall pam wnaeth y troseddwr hwn i hi," meddai.

"Fedra i ddim dychmygu sut fydd fy mywyd hebddi hi. Hi oedd fy unig blentyn. Mae'r troseddwr wedi torri ein teulu ni."

Disgrifiad o’r llun,

Meifang Xu gyda'i gŵr, Yongquan Jiang a oroesodd yr ymosodiad a laddoddd ei merch, Wenjing Lin

Dywedodd hi fod Wenjing wedi ennill gradd A ym mhob un o'i hasesiadau TGAU, "ond bydd hi erioed yn cael gwybod y canlyniad weithiodd hi mor galed ar ei gyfer".

"Roedd hi'n ferch hapus iawn, iawn, ac roedd ei ffrindiau yn ei charu hi," meddai ei mam.

Dywedodd hi ei bod hi'n falch i weld cyfiawnder yn dilyn yr euogfarn ddydd Mawrth.

Pynciau cysylltiedig