Dyffryn Nantlle: Tro pedol ar wrthod cinio ysgol dros ddyledion
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraethwyr mewn ysgol oedd wedi awgrymu na fyddai plant oedd mewn dyled cinio ysgol yn cael eu bwydo wedi gwneud tro pedol ar y mater.
Roedd pennaeth Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes wedi dweud bod cogydd yr ysgol wedi cael cyfarwyddyd "i beidio rhoi bwyd i unrhyw blentyn" oni bai bod dyledion wedi'u clirio.
Daeth hynny ar ôl iddi ddod i'r amlwg ddydd Iau bod dyledion o £1,800 gan ddisgyblion yr ysgol.
Roedd y pennaeth Neil Foden wedi dweud wrth rieni y byddai unrhyw un â dyledion dros 1c yn cael cais i dalu eu swm yn llawn erbyn 19 Tachwedd, neu'n wynebu peidio cael cinio ar ôl hynny.
Ond mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd llywodraethwyr yr ysgol na fydden nhw'n "cefnogi unrhyw weithdrefn lle golygir gwrthod cinio ysgol i ddisgybl ar sail fforddiadwyedd".
Ychwanegodd y llywodraethwyr eu bod yn "mynnu adolygiad o'r trefniadau awgrymir yn y llythyr".
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro.
'Edrych ar y darlun mawr'
Fe gafodd y penderfyniad gryn sylw ddydd Iau, a dywedodd un rhiant gyda phlant yn yr ysgol ei fod yn "hollol gandryll" gyda'r syniad.
Ymhlith yr ymatebion eraill roedd y pêl-droediwr Marcus Rashford wedi gofyn "a oedd y pandemig wedi dysgu unrhyw beth i ni?".
Mae ymosodwr Manchester United wedi bod yn ymgyrchydd blaenllaw dros brydau ysgol am ddim yn ddiweddar.
Yn y datganiad ddydd Gwener, dywedodd Sara Lloyd Evans, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Nantlle: "Mae'n bwysig iawn edrych ar y darlun mawr ac nad ydi materion wastad yn ddu a gwyn.
"Un o'r materion hynny ydi cinio ysgol.
"Ni fyddai Corff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Nantlle yn cefnogi unrhyw weithdrefn lle golygir gwrthod cinio ysgol i ddisgybl ar sail fforddiadwyedd."
Ychwanegodd Ms Evans: "Mae'r Corff yn ymwybodol bod Mr Foden wedi derbyn arweiniad gan yr awdurdod ynglŷn â delio gyda'r dyledion ac yn dilyn derbyn yr arweiniad yma gyrrwyd y llythyr i'r rhieni a'r gofalwyr.
"Bydd y corff yn trafod gyda'r awdurdod y cyngor technegol rhoddwyd er mwyn sicrhau nad oes problemau cyfathrebu tebyg yn y dyfodol."
Aeth ymlaen i ddweud bod adroddiadau gan sawl athro yn yr ysgol sy'n cadw byrbrydau yn eu dosbarthiadau i blant "sydd efallai wedi cyrraedd yr ysgol heb frecwast".
Mae hynny'n digwydd yn "rheolaidd", meddai.
Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro
Mae Cyngor Gwynedd wedi "ymddiheuro am y pryder a phoen meddwl sydd wedi ei achosi yn sgil cynnwys a geiriad llythyr diweddar gan Ysgol Dyffryn Nantlle at rieni ynglŷn â thaliadau cinio ysgol".
Ychwanegodd llefarydd: "Wedi ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd yn achos y llythyr diweddar, mae'n ymddangos fod cyngor technegol a roddwyd gan yr Adran Addysg ar sut i ymdrin â dyledion taliadau cinio ysgol wedi creu aneglurder, ac rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant am effaith hyn.
"Yn sgil hyn, byddwn yn adolygu ein harweiniad i ysgolion."
Dywedodd y llefarydd y byddai'r cyngor "bob amser yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn ar draws y sir yn wynebu diwrnod heb ginio yn yr ysgol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2021