Gwasanaethau Sul y Cofio ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd

Cyfnod o dawelwch yng ngwasanaeth Sul y Cofio Aberystwyth
Ar Sul y Cofio mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru i nodi aberth y rhai a gollwyd ac a anafwyd mewn rhyfeloedd byd.
Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a oedd mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, bod y cyfnod hwn yn "rhoi cyfle i bawb roi teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
"Fel Llywodraeth ry'n yn cydnabod aberth y rhai sydd wedi'u colli a'u hanafu mewn gwrthdaro - a hynny er mwyn sicrhau y rhyddid ry'n ni yn ei fwynhau heddiw.
"Ar Ddydd y Cadoediad a Sul y Cofio ry'n yn oedi ac yn meddwl am y rhai a gollwyd ac sydd wedi aberthu cymaint i amddiffyn ein gwerthoedd a'n rhyddid," meddai.

Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn y gwasanaeth ym Mharc Cathays, Caerdydd
Roedd y Prif Weinidog a nifer o gynrychiolwyr eraill yn gosod torch am oddeutu 11:00 ger y gofeb rhyfel yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas: "Mae Sul y Cofio yn ddyddiad pwysig yn ein calendr, yn rhoi cyfle i ni feddwl am y gwasanaeth y mae nifer helaeth o ferched a dynion wedi rhoi i'w gwlad ar hyd y degawdau.
"Wrth i Covid-19 barhau i fod yn rhan o'n bywyd, fe fyddwn hefyd yn meddwl am y rhai sydd wedi'u heffeithio gan yr haint a'r rhai sydd ar y rheng flaen yn brwydro yn erbyn y pandemig."
Bydd gwasanaethau yn cael eu cynnal ar draws Cymru gan gynnwys rhai yn Abertawe, Aberystwyth, Llandudno a Wrecsam.

Cannoedd o bobl yn ymgynnull ar gyfer y gwasanaeth yn Wrecsam
Llynedd yn sgil y pandemig penderfynodd sawl ardal hepgor seremoni neu wasanaeth ffurfiol. Roedd eraill wedi rhannu seremoni fer dros y we, a rhai cymunedau wedi enwebu unigolion i osod torch ar eu rhan.
Nos Sul fel ag ar Ddiwrnod y Cofio bydd Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, Morglawdd Bae Caerdydd ac adeiladau eraill yn cael eu goleuo'n goch.

Cloc Tredegar yn cael ei oleuo'n goch i nodi Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio
Dywed Adam Price AS Arweinydd Plaid Cymru: "Heddiw, ar Sul y Cofio, talwn deyrnged i bob un sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfel a gwrthdaro.
"Nid amser i ddathlu yw hwn dim ond amser i fyfyrio yn dawel.
"Cofiwn a chefnogwn rheini sydd wedi ymladd mewn gwrthdaro wrth inni ymdrechu tuag at ddyfodol o heddwch a ffyniant - gan addo na fydd ein plant byth eto yn gorfod wynebu erchyllion rhyfel fel cenedlaethau'r gorffennol."

Mewn datganiad dywedodd Rhun Dafydd, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod: "Yn ystod digwyddiadau Diwrnod Cofio a Sul y Cofio, byddwn yn eich annog i gymryd amser i feddwl am heddwch a chofio pawb sydd wedi aberthu eu bywydau o ganlyniad i erchyllterau rhyfel.
"Mae'r digwyddiadau yn gyfle i ni gofio ac amlygu nad trais yw'r ateb i unrhyw anghydfod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2019