Dyn sgitsoffrenig wedi marw ar ôl gadael ysbyty ar ben ei hun
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed fod dyn oedd â sgitsoffrenia wedi marw mewn ffrwydrad yng ngarej ei gartref ar ôl cael gadael uned iechyd meddwl ar ben ei hun.
Clywodd y gwrandawiad yng Nghasnewydd bod Christopher Jones o Bont-y-pŵl yn glaf yn Uned Talygarn, Ysbyty'r Sir ym Mhont-y-pŵl cyn ei farwolaeth yng Ngorffennaf 2019.
Roedd Mr Jones, 32, yn cael ei gadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl adeg ei farwolaeth, ac felly mae'r cwest yn cael ei glywed gan reithgor.
Mewn datganiad i'r llys crwner, dywedodd ei fam, Kathie Jones, ei bod adref ar 22 Gorffennaf 2019, pan glywodd sŵn uchel yn dod o'r tu allan.
"Edrychais i fyny a gweld bod y garej ar dân", meddai'r datganiad, gan ychwanegu ei bod wedi clywed rhywun "yn sgrechian mewn poen".
Dywedodd ei bod wedi cael galwad gan Uned Talygarn i ddweud nad oedd ei mab wedi dychwelyd ar ôl cael bod allan am ddwy awr.
Dywedodd: "Bryd hynny, o'n i'n gwybod mai Christopher oedd yn y garej."
Clywodd y cwest gan Tony Jackson, rheolwr gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a ddywedodd bod y tân wedi ei ddechrau gan "hylif llosgadwy oedd wedi ei gynnau'n fwriadol".
Achos y farwolaeth oedd effeithiau'r tân.
Clywodd y cwest hefyd gan Karen Addyman, cydlynydd gofal gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a oedd wedi nabod Mr Jones ers tair blynedd.
Dywedodd nad oedd Mr Jones yn hoff o gymryd ei feddyginiaeth, ond nad oedd wedi sôn am fod eisiau anafu neu ladd ei hun yn y cyfnod yr oedd hi'n ei adnabod.
Dywedodd bod Mr Jones wedi ei symud i Uned Talygarn yn Rhagfyr 2018 ar ôl ceisio llosgi matres mewn llofft.
Y tro diwethaf iddi weld Mr Jones oedd ym Mehefin 2019, pan oedd yn "bryderus ac yn aflonydd", meddai.
Ychwanegodd Ms Addyman ei bod "wedi synnu" bod Mr Jones wedi cael gadael yr uned ar ben ei hun.
"Fy nealltwriaeth i oedd ei fod yn yr ysbyty oherwydd y risg - os oedd yn risg mor fawr, yna dylai fod wedi cael gadael gyda rhywun arall," meddai.
Mae'r cwest yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2019
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019