Ffrwydrad Pont-y-pŵl: Dyn wedi marw o effaith tân a mwg
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cael ei agor i farwolaeth dyn 32 oed yn dilyn ffrwydrad a thân mewn garej ym Mhont-y-pŵl fis diwethaf.
Clywodd y gwrandawiad yng Nghasnewydd bod Christopher Jones wedi cael ei adnabod yn dilyn profion DNA.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yng Nghoed Camlas ym mhentref Y Dafarn Newydd am tua 11:00 ddydd Llun 22 Gorffennaf.
Cafodd corff ei ddarganfod ac mae prawf post mortem wedi dod i'r canlyniad mai achos y farwolaeth oedd effaith tân a mwg.
Clywodd y cwest bod Mr Jones yn cael gofal dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae ei deulu wedi cwestiynu sut yr oedd hi'n bosib iddo adael uned iechyd meddwl heb oruchwyliaeth.
Dywedodd Crwner Gwent, Caroline Saunders bod yr heddlu a'r bwrdd iechyd lleol yn parhau i ymchwilio i'r farwolaeth.
Ychwanegodd ei bod yn debygol y bydd cwest llawn i farwolaeth Mr Jones yn cael ei gynnal yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019