Yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal adolygiad o gystadlaethau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, yn arwain y seremoni Urddo yn 2019.Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei gohirio dwywaith oherwydd y pandemig

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod nhw'n chwilio am ymgynghorydd i arwain adolygiad o gystadlaethau'r ŵyl er mwyn "sicrhau eu bod yn parhau'n gyfredol" yn y dyfodol.

Mewn datganiad i'r wasg dywedodd trefnwyr yr ŵyl y bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gynnal ymchwiliad dros gyfnod o dri mis fydd yn cynnig argymhellion ar sut all y cystadlaethau newid - o ba gystadlaethau sy'n cael eu cynnig yn y lle cyntaf, i sut maen nhw'n cael eu rhaglenni.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd Elen Elis, trefnydd yr ŵyl, ei fod "yn fyd newydd bellach i ni gyd" wedi i'r Eisteddfod orfod cael eu gohirio dwywaith yn ystod y pandemig.

Ychwanegodd fod Pwyllgor Diwylliannol a Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol yn teimlo bod angen cynnal adolygiad er mwyn "sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cymryd diddordeb a bod [yr holl gystadlaethau'n] saff i'r dyfodol."

Yn y datganiad, dywedodd y trefnwyr: "Wedi saib o ddwy flynedd yn sgil y pandemig, mae Pwyllgor Diwylliannol a Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol wedi penderfynu ei bod hi'n amserol i'r sefydliad gynnal Adolygiad Annibynnol o'r Cystadlu.

"Gofynnir i'r ymgynghorydd archwilio'r cynnwys presennol ac ystyried a ddylid gwneud unrhyw newidiadau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n gyfredol, gan sicrhau eu bod yn rhan ganolog o'r Ŵyl wrth edrych i'r dyfodol.

"Rydym am i'r ymgynghoriad dreiddio i'n cymunedau: i gynnwys ein rhanddeiliaid, e.e. y cystadleuwyr, aelodau'r pwyllgorau amrywiol, staff yr Eisteddfod, partneriaid darlledu a gweithredu, ein cynulleidfaoedd, yn ogystal â'r anghyfarwydd, gan gynnwys croestoriad o oed, diddordeb a chefndir."

Disgrifiad,

Trefnydd yr ŵyl, Elen Elis, fuodd yn esbonio pam ar Dros Frecwast

Dywedodd Ms Elis bod yr adolygiad yn berthnasol i "bob peth" sydd ynghlwm â'r cystadlaethau.

"Popeth sydd ynghlwm â'r cystadlaethau... sut 'da ni'n mynd ati i'n well i weinyddu, i lwyfannu, i raglenni, be' 'di'r cynnwys, pob peth mewn ffor'," meddai.

Ychwanegodd mai'r rheswm tu ôl y penderfyniad i gynnal adolygiad annibynnol oedd er mwyn sicrhau bod cystadlaethau'r Eisteddfod yn parhau i fod yn berthnasol i bawb yn y dyfodol: "Er mwyn sicrhau dyfodol y cystadlu a bod o'n wreiddiol i waith yr Eisteddfod yn hir i'r dyfodol a bod o'n ganolog a bod o'n gyfredol a bod o'n plesio pawb."

Pwysleisiodd bod cael "croesdoriad" o bobl "amrywiol" yn rhan o'r sgyrsiau'n bwysig wrth feddwl am beth all newid o ganlyniad i'r adolygiad er mwyn sicrhau "bod y syniadau'n dod gan ein cymunedau ni, gan ein pobl gyfarwydd ni, gan ein cystadleuwyr ni, gan ein beirniaid ni a'n cyfeilyddion ni, gan ein holl rhanddeiliaid ni ond hefyd y bobl sydd ddim yn ymwneud gyda'r cystadlu."

Dywedodd fod cael "sgyrsiau hefo pobl sy'n gyfarwydd ond hefyd a phobl sydd yn anghyfarwydd gyda'r cystadlaethau hefyd" yn bwysig, a bod angen "gofyn pam 'da chi ddim yn cystadlu, neu be' hoffech chi weld?".

"Falle neith yr adolygiad droi rownd a deud 'da ni'n iawn fel ydan ni, dwi'm yn gwybod. Ond chi 'mod, i ni oroesi a bod yn llwyddiannus ac yn effeithiol i'r dyfodol mae'n rhaid craffu weithiau a chymryd cam yn ôl ac asesu er mwyn llwyddiant."

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer y swydd yw 22 Tachwedd.