Ail gartrefi: 'Defnyddiwch ddeddf i warchod cymunedau'

  • Cyhoeddwyd
Arfordir Cymru

Dylid gwarchod cymunedau rhag rhai o broblemau ail gartrefi drwy ddefnyddio Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, medd comisiynydd.

Daw sylwadau Sophie Howe wrth i ymgyrchwyr ystyried camau cyfreithiol am nad yw gweithwyr allweddol lleol yn gallu fforddio prynu tai o fewn eu milltir sgwâr.

Mae 'na restr faith o weithwyr allweddol sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gartref yn eu cymunedau erbyn hyn, yn ôl grŵp ymgyrchu Siarter Cyfiawnder Cartrefi Cymru (SCCC).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "eisiau i bobl allu fforddio byw a gweithio yn eu cymunedau lleol".

Yn y cyfamser, mae un ymgyrchydd wedi cwestiynu pa mor effeithiol ydy Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol mewn gwirionedd.

Mae SCCC yn dweud bod cymunedau ar draws y wlad dan fygythiad yn sgil llety gwyliau ac ail gartrefi.

Maen nhw'n ystyried camau cyfreithiol dan Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn sgil yr effaith ar gymunedau, yr iaith Gymraeg a diwylliant.

"Mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymwneud yn llwyr â'r nodau o gael Cymru fwy cyfartal, gyda chymuned fywiog o iaith a diwylliant Cymraeg," meddai'r llefarydd, Cris Tomos.

"Ein ple i wleidyddion, gweinidogion a chomisiynydd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yw edrych ar sut y gallwn sicrhau y gall pobl fyw mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol - fel bod gennym ni genedlaethau yn parhau yma ar gyfer y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

"Dyw'r pentref 'ma ddim yn Gymraeg o gwbl nawr" medd Minna Elster Jones

Yn ôl Minna Elster Jones, 16 oed o Landudoch yn Sir Benfro, "mae llai a llai o bobl Cymraeg, a dyw pobl ifanc Cymraeg ddim yn gallu fforddio byw yn fan hyn".

Dywedodd bod y "pentref wedi newid eithaf lot dros gyfnod eithaf byr".

"'Dan ni wastad wedi cael twristiaid, ni ar bwys y môr, ond dydyn ni byth wedi cael cymaint o dwristiaid, a thwristiaid sydd â shwd gymaint o arian."

'Pobl yn llefain dros hyn'

Mae mwyfwy o dai yn wag dros y gaeaf, meddai, sy'n cael effaith fawr ar yr iaith Gymraeg a'r gymuned.

"Dwi wedi gweld pobl yn llefain dros hyn, dydyn nhw ddim eisiau i'r iaith fynd, na'r gymuned i fynd,"

Dywed nad yw pobl ifanc eisiau gadael ond "s'dim dewis 'da nhw" oherwydd prinder tai fforddiadwy.

"Sai'n meddwl y bydda i'n gallu fforddio tŷ fan hyn, ond hyd yn oed 'sen i yn gallu fforddio, dwi ddim yn siŵr y bydden i eisiau byw yn fan hyn.

"Dwi eisiau magu plant trwy gyfrwng y Gymraeg, mewn cymuned Gymraeg, a dyw'r pentref 'ma ddim yn Gymraeg o gwbl nawr.

"Mae pobl sy'n dod i mewn yn erydu'r diwylliant."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd mewn rali yng Nghwm Celyn ym mis Gorffennaf oedd yn galw am weithredu ar yr "argyfwng tai"

Ond dywedodd Rhys Jordan, sy'n gweithio i'r gwerthwr tai Purple Bricks yn Sir Benfro, fod y rhyddhad treth stamp wedi golygu bod gan bobl fwy o arian i'w wario.

"Gyda Sir Benfro yn dal heb ei darganfod yn gymharol, mae'n cael ei hystyried fel Cernyw newydd," meddai.

"Ydym, rydyn ni wedi gwerthu llawer o eiddo i bobl nad ydyn nhw o reidrwydd yr hyn y byddech chi'n ei ystyried yn lleol, ond byddwn i'n dweud bod 90% o bopeth rydyn ni wedi'i werthu yn bobl sy'n dod i fyw yn bennaf yma - ac i roi yn ôl i'r cymunedau hyn.

"A oes angen i bobl ifanc a phrynwyr tro cyntaf i reoli eu disgwyliadau? Rydyn ni i gyd wrth ein bodd yn byw yn yr ardaloedd mwyaf dymunol a pherffaith.

"Yn anffodus, fel prynwr tro cyntaf mae'n rhaid i chi symud ychydig ymhellach i ffwrdd i gael eich troed ar yr ysgol."

Ffynhonnell y llun, Sophie Howe
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Howe yn galw am weithredu ar frys

Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, ei bod yn ymwybodol o'r broblem a'i bod yn ceisio helpu.

"Gellid a dylid defnyddio Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn," meddai.

"Yn gynyddol, gallaf weld bod problemau enfawr yn datblygu yn y maes hwn, a dyna pam rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y prif weinidog ac at y gweinidog tai, i godi'r pryderon rwy'n eu clywed gan gymunedau ac i alw am weithredu ar frys.

"Os na fyddwn yn gweithredu'n gyflym bydd rhai o'r cymunedau hyn yn cael eu difrodi am amser hir i ddod."

Ond mae un ymgyrchydd amlwg yn cwestiynu pa mor effeithiol ydy'r ddeddf.

Disgrifiad,

Mae Rhys Tudur yn cwestiynu effeithiolrwydd deddf ail gartrefi

Dywed Rhys Tudur, sy'n gadeirydd Cyngor Tref Nefyn, mai "deddf ddyheadol yn unig ydy hi, deddf gyffredinol, ac mae'n fwriadol amwys".

"Does 'na ddim byd oddi fewn iddi sy'n fecanwaith allwch chi ddefnyddio i ddwyn awdurdodau lleol neu lywodraeth i gyfrif petai nhw ddim yn gweithredu yn unol â'r nodau o fewn y ddeddf," meddai ar Dros Frecwast.

'Mater cymhleth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni eisiau i bobl allu fforddio byw a gweithio yn eu cymunedau lleol.

"Mae hwn yn fater cymhleth ac nid oes ateb cyflym, un-maint-i-bawb.

"Cymru yw'r unig genedl yn y DU i roi pwerau dewisol i awdurdodau lleol godi premiwm - hyd at 100% - o dreth y cyngor ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi. Dyma un o'r mesurau rydyn ni wedi'u cyflwyno i helpu i fynd i'r afael â mater niferoedd anghymesur o ail gartrefi mewn rhai cymunedau.

"Rydyn ni hefyd wedi cynyddu cyfradd uwch y dreth trafodion tir, sy'n berthnasol pan fydd pobl yn prynu eiddo ychwanegol.

"Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar opsiynau pellach ar gyfer trethi lleol ar ail gartrefi a llety hunanarlwyo ac yn edrych ar ba ymyriadau pellach sydd ar gael inni."