Cymru dan-21 0-1 Y Swistir dan-21

  • Cyhoeddwyd
Joe AdamsFfynhonnell y llun, FAW/NCM Media

Mae tîm dan-21 Cymru wedi colli o 1-0 yn erbyn Y Swistir - canlyniad sydd wedi rhoi ergyd i'w gobeithion o gyrraedd Euro 2023.

Gôl Felix Mambimbi yn yr ail hanner oedd y gwahaniaeth rhwng y timau yn Rodney Parade, Casnewydd.

Yn siomedig i Gymru, tîm Paul Bodin wnaeth greu'r rhan fwyaf o gyfleoedd, ond doedden nhw'n methu canfod rhwyd yr ymwelwyr.

Cafodd gobeithion Cymru am bwynt eu chwalu yn hwyr yn y gêm, wrth i beniad Billy Sass-Davies i gefn y rhwyd gael ei atal am drosedd ar amddiffynnwr Y Swistir, Nicolas Vouilloz.

Mae'r golled yn golygu bod Cymru'n parhau'n bedwerydd yng ngrŵp E.