Hanes adeilad eiconig Cymru: 'Y Coleg ar y Bryn'
- Cyhoeddwyd
Mae'n cael ei ddweud yn aml bod chwarelwyr y gogledd wedi helpu i sefydlu Prifysgol Bangor gyda'u harian prin - felly mae'n syndod gwybod beth sydd ar do prif adeilad adnabyddus y Coleg ar y Bryn.
Gari Wyn, y dyn busnes a'r hanesydd, fu'n trafod hanes difyr un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru ar raglen Dei Tomos.
Unig brifysgol gogledd Cymru
"Dwi'n teimlo'n reit academaidd bob tro dwi'n sefyll wrth yr adeilad i ddweud y gwir!" meddai Gari Wyn.
"Wrth edrych o'r hen adeilad, mae'r olygfa dros ddinas Bangor yn ogoneddus ac ysbrydoledig i unrhywun sydd yn cael ei addysg yma.
"Roedd adeilad cyntaf y brifysgol ym Mhort Penrhyn, yn 1884. Pan agorwyd yn wreiddiol dyma oedd yr unig brifysgol yng ngogledd Cymru.
"Bangor oedd yr unig ddinas yng Nghymru gyfan ar y pryd. Ac felly yn ennill y ddadl i gael mwy a mwy o brifysgol."
Y Gymraeg
Tyfodd y Gymraeg law yn llaw gyda datblygiad y brifysgol a chafodd llawer o bobl eu dylanwadu a'u perswadio i ddysgu Cymraeg o fewn yr adeilad.
"Penderfynodd Sir J Lloyd, un o athrawon y brifysgol, bod rhaid i bobl uchel y sefydliad ddysgu Cymraeg, pobl fel Shankland a'r Aelod Seneddol William Rathbone. Roedd hyn i gyd oherwydd twf y brifysgol," eglura Gari.
"Y ffordd roedden nhw'n dysgu oedd darllen llyfrau Daniel Owen a chael y dosbarth i'w gyfieithu. Roedd hyn yn rhoi platfform ac elfen o barch i'r Gymraeg o fewn y brifysgol."
Yr adeiladu
Ar ôl datblygiadau pellach, fe agorwyd yr adeilad hanesyddol ar ben y bryn ar 14 Mehefin 1911. Ariannwyd gan chwarelwyr a ffermwyr oedd am roi cyfle i bobl leol gogledd Cymru gael mynediad i addysg uwch.
"Cwmni o Lerpwl o'r enw Thornton, oedd wedi cyflogi is-gontractwyr lleol, oedd yn gyfrifol am adeiladu'r adeilad. Roeddent yn feistri ar adeiladu rhan fwyaf o adeiladau mwyaf a phoblogaidd Lerpwl," meddai Gari.
"Henry Thomas Hare oedd y pensaer, Sais oedd gyda dim unrhyw gyswllt â Chymru ond yn ymwybodol iawn o werth yr adeilad - ac mae eisiau cofio does yna ddim adeilad mor eiconig â hwn yng Nghymru."
John Pritchard Jones
"Allwch chi ddim sôn am brifysgol Bangor heb sôn am y dyn yma," creda Gari.
"Un o wyth o blant a ddatblygodd sawl busnes llwyddiannus yn Llundain yw John Pritchard Jones.
"Fe berswadiodd Lloyd George i John Pritchard Jones gyfrannu swm o arian i godi'r adeilad - £5,000 oedd y swm, sydd tua £10m heddiw.
"Mae'r cerflun o John Pritchard Jones yng nghyntedd yr adeilad i'w goffau wedi cael ei wneud gan un o gerflunwyr mwyaf enwog Cymru - Sir William Goscombe John.
"Mae angen cofio am y bobl yma, fel Cymry pybyr a chenedlaetholgar."
Rhaid parchu'r gwaith
Mae'r adeilad yn cael ei gymharu'n aml i adeiladau prifysgol Caergrawnt.
"Mae crefft yr adeilad a'r garreg sydd wedi cael ei ddefnyddio yn unigryw," dywedodd Gari.
"Tywodfaen yw'r garreg o chwarel Cefn, Rhiwabon. Rhaid parchu'r gwaith, oherwydd roedd dod â'r cerrig yma i gyd yn dasg anferthol ac wedyn gorfod sgwario'r miloedd at ei gilydd.
"Wrth edrych ar yr adeilad mewn gwahanol dywydd, mae'n troi'n oren a dyma pam roedd Henry Thomas Hare eisiau'r garreg benodol yma.
"Ac yn yr haul mae'n troi'n hufennog felyn."
Derw o Awstria a llechi o Sir Benfro
Un o'r ystafelloedd harddaf yn yr adeilad yw llyfrgell Shankland a chredir Gari Wyn mai hwn yw'r llyfrgell harddaf yng Nghymru gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
"Cafodd hon ei adeiladu ugain mlynedd cyn y Llyfrgell Genedlaethol," meddai.
"Mae'n anhygoel o 'stafell, o un pen i'r llall.
"Wedi'i wneud gyda derw o Awstria a'r byrddau, silffoedd a'r dodrefn i gyd wedi cael eu rhoi gan Owen Owens y siopwr o Lerpwl, miliwnydd o Fachynlleth yn wreiddiol.
"Watkin Jones oedd yn gyfrifol am osod y gwaith coed, y drysau derw. Ac mae'r un cwmni dal yn bodoli heddiw; teulu o Benmachno yn wreiddiol. Roedd y bobl yma yn allweddol."
Pechu'r chwarelwyr
Mae eironi a thristwch yn hanes llechi'r adeilad, sy'n gysylltiedig gyda'r chwarelwyr lleol.
"Roedd y chwarelwyr o amgylch Bangor yn cyfrannu eu harian prin i ariannu codi'r adeilad, a hyd yn oed plant y chwarelwyr yn rhoi ceiniog y flwyddyn o'u pres poced," meddai Gari.
"Ond ar ôl hynny i gyd, dyma Henry Thomas Hare yn rhoi cic yn nannedd y chwarelwyr wrth iddo wneud penderfyniad dadleuol wrth ddweud bod o eisiau llechi gyda rhywfaint o wyrddni ynddyn nhw.
"A doedd llechi Penrhyn ddim yn gweddu i'r garreg roedd o wedi'i ddewis, sef y garreg tywodfaen o ardal Rhiwabon. Dewisodd o lechi Rosebush o Sir Benfro."
Gwrandewch ar Gari Wyn yn trafod hanes adeilad prifysgol Bangor ar raglen Dei Tomos.