'Hwyr iawn' yn brechu pobl ifanc ardal Y Bala
- Cyhoeddwyd
Mae brechiadau wedi cael eu cynnig "yn hwyr iawn" i bobl ifanc yn yr ardal â chyfraddau Covid uchaf Cymru ar hyn o bryd, yn ôl meddyg teulu sy'n byw yno.
Yn ôl ffigyrau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau, Y Bala a Mawddwy oedd â'r gyfradd uchaf - 1,449 i bob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod, o gymharu â 504.9 ar draws Cymru gyfan.
Wrth siarad â BBC Radio Cymru, dywedodd Dr Graham Thomas bod cais "hwyr iawn yn y broses" i feddygfeydd helpu brechu pobl yn eu harddegau yn "rhwystredig" ac "yn arwydd bod ni ddim wedi ymateb mor brydlon fel cymdeithas neu gwasanaeth iechyd".
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n gwasanaethu'r gogledd, eu bod "wedi gweithredu'r rhaglen frechu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru".
"Da ni yn bendant yn gweld lot o achosion yn lleol," meddai Dr Thomas, sy'n gweithio yng Nghorwen ac yn hunan-ynysu yn ei gartref yn Y Bala ar hyn o bryd, gan fod Covid ar yr aelwyd.
Awgrymodd ar raglen Dros Frecwast mai "trwy'r ysgol uwchradd ma'r trosglwyddiad yn bennaf" yn achos y ddwy dref, ond bod "mwy o drosglwyddiad gweithle" yn achos Corwen.
Pan ofynnwyd iddo pam bod y cyfraddau mor uchel ar hyn o bryd, atebodd bod "ardaloedd gwledig ar y cyfan wedi eithrio i raddau yn ystod y pandemig".
Ond mae'r sefyllfa'n "llawer gwaeth yn y mis neu ddau diwethaf" ac mae'n bosib "bod imiwnedd y pobl yma hefyd yn is i gymharu â llefydd eraill".
Mae'r Bala, meddai, "wedi bod yn gwneud yn dda tan yn ddiweddar ond does 'na ddim imiwnedd naturiol ymysg y boblogaeth - enwedig ymysg plant".
Aeth ymlaen i awgrymu bod "brechiadau i blant yn eu harddegau wedi bod yn rhy hwyr" ac "yn ara' deg yn Y Bala" gyda phlant yn teithio i Ddolgellau neu Dremadog i gael brechiad.
Bellach, mae'r bwrdd iechyd bellach yn gofyn i feddygfeydd frechu plant, meddai Dr Thomas, a awgrymodd bod yr awdurdodau'n "amlwg yn cael trafferth darparu brechlynnau".
'Heb weld cynlluniau rhag ofn'
Dan y cynllun brechu gwreiddiol, roedd byrddau iechyd yn cynnig brechiadau i oedolion mewn canolfannau, ac mewn rhai achosion fe ofynnwyd i feddygon teulu helpu i frechu pobl mewn meddygfeydd.
Yn achos y rhaglen i frechu pobl ifanc, dywedodd Dr Thomas: "Rydyn ni wedi cael y cais i wneud hynny yn hwyr iawn yn y broses.
"Mae'n rhwystredig - mae hwn yn arwydd bod ni ddim wedi ymateb mor brydlon fel cymdeithas neu gwasanaeth iechyd. Yn amlwg mae'n dod o'r top, trwy'r llywodraeth, ond y byrddau iechyd sy'n darparu y brechlynnau.
"Mi oedd yn bosibiliad bod y rhaglen brechu plant yn mynd i ddigwydd, ond ['da ni] heb weld dim darpariaeth yn ei le rhag ofn bod ni'n gorfod cymryd y camau hyn."
Gofynnwyd wrth Dr Thomas a oedd yn awgrymu y byddai mwy o gynllunio rhag blaen wedi helpu wedi osgoi cyfraddau mor uchel. Atebodd: "Yndw."
Fe gadarnhaodd ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Gwener taw Gwynedd sy'n parhau â'r gyfradd achosion uchaf yng Nghymru, sef 709.7. 512.5 yw'r gyfradd ar draws Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gwasanaethu'r gogledd, bod y materion a gododd Dr Thomas "yn fater i Lywodraeth Cymru" a bod y bwrdd "wedi gweithredu'r rhaglen frechu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru".
Beth ydy ymateb y llywodraeth?
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dros hanner y bobl ifanc 12 i 15 oed wedi manteisio ar eu cynnig o frechiad.
"Ledled Cymru, mae clinigau'n cynnig brechiad heb apwyntiad.
"Rydym yn diolch i bawb sy'n cymryd rhan am eu cymorth a'u cefnogaeth i sicrhau bod brechlynnau ar gael i bawb ledled Cymru mor gyflym."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021