Athrawon yn ymddiswyddo dros gael eu sarhau ar TikTok
- Cyhoeddwyd
Mae rhai athrawon yn gadael y proffesiwn ar ôl cael eu sarhau ar ap cyfryngau cymdeithasol TikTok, yn ôl undeb addysg.
Mae hi wedi dod yn boblogaidd ymysg plant i rannu fideos o staff ysgol gyda disgrifiadau anweddus ar yr ap, gan gynnwys fideos pornograffig gydag wynebau staff wedi eu gosod arnynt.
Dywedodd ysgol yng Nghwmtawe eu bod wedi galw'r heddlu ar ôl i staff gael eu ffilmio heb wybod a'u galw'n bedoffeil ar yr ap.
Dywedodd TikTok nad yw'n goddef casineb, bwlio na cham-drin.
Yn ôl Gemma Morgan, pennaeth cynorthwyol Ysgol Gymunedol Cwmtawe ym Mhontardawe, mae cyfrif ysgol ffug wedi cael ei greu ar yr ap.
'Gofidus iawn'
Mae'r cyfrif wedi rhannu fideos o nosweithiau rhieni a gwersi rhithiol, yn ogystal â ffilmio cudd o staff, sydd wedi cael ei olygu.
"Roedden nhw wedi golygu'r fideos a rhoi hashnodau arnyn nhw - roedd sawl hashnod yn cynnwys y gair paedo," meddai.
"Roedd rhai athrawon wedi cael eu ffilmio heb wybod mewn ystafelloedd ddosbarth."
Dywedodd hi fod yna "sylwadau difrifol, dirmygus" ac "iaith andros o wael".
"I ddweud y gwir, pethau oedd yn peri pryder mawr, ac fe wnaethon ni gysylltu â'r heddlu lleol."
Roedd y sefyllfa'n "andros o ofidus" i staff, meddai hi.
"Yn enwedig i deuluoedd y staff... mae'n bryder enfawr."
'Eithaf creulon'
Dywedodd Helen Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Maesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bod clipiau o athrawon wedi cael eu defnyddio i greu memes - cynnwys sy'n dynwared fideos neu luniau eraill, sydd i fod yn ddoniol.
Dywedodd bod rhai ohonynt yn "weddol ddiniwed".
"Ond pan maen nhw wedi bod yn amhleserus maen nhw wedi bod yn eithaf creulon, ac mae'n hawdd bod yn greulon pan mae perchennog y cyfrif yn anhysbys," meddai.
Dywedodd mai'r "awgrym" mewn un meme oedd bod athro yn bedoffeil.
"Mae'r math yma o beth yn achosi gofid a phryder mawr," meddai Ms Jones.
Dywedodd fod pawb wedi blino oherwydd y pandemig a bod absenoldeb ymysg disgyblion a staff "ar ei lefel uchaf erioed".
Does dim un o'r ysgolion hyn wedi diarddel disgyblion, gan ganolbwyntio ar addysgu plant a rhieni yn hytrach.
"Dydw i ddim yn credu eu bod nhw'n sylweddoli canlyniadau'r hyn maen nhw'n ei wneud. Ar ddiwedd y dydd plant ydyn nhw," meddai Ms Jones.
'Dyma'r ergyd farwol'
Dywedodd Swyddog Cenedlaethol Cymru undeb athrawon NASUWT, Neil Butler, fod ymddygiad o'r fath yn cael "effaith negyddol enfawr ar les athrawon mewn ysgolion ar draws y DU".
"Mae gennym ni esiamplau o athrawon yn aros adre'n sâl, dan straen. Mae gennyn ni esiamplau o athrawon yn gadael y proffesiwn, sef wrth gwrs y pryder mwyaf - allwn ni ddim fforddio colli athrawon profiadol o'r ystafell dosbarth," meddai.
"Dyma'r ergyd farwol mewn gwirionedd - roedd yn ddigon gwael beth oedd yn rhaid iddyn nhw fynd trwyddo yn ystod y pandemig, a nawr mae'n rhaid iddyn nhw wynebu hyn."
Dywedodd ei fod wedi gweld un fideo yn annog plant i daro athro.
"Fe fyddwn ni'n sicrhau fod holl rym y gyfraith - os yw'r gyfraith yn cael ei dorri - yn cael ei ddefnyddio, oherwydd mae'n rhaid i ni ddiogelu'n haelodau," meddai.
'Iaith hiliol'
Dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr Cymru undeb penaethiaid ysgolion ASCL, ei bod wedi gweld iaith hiliol ac athrawon yn cael eu cyhuddo o garwriaethau.
"Mae e' wir yn bethau creulon, dirmygus, erchyll," meddai.
"Mae athrawon yn edrych dros eu hysgwydd... mae'n sefyllfa warthus.
"Mae'n greulon ac yn ddiangen ac i ddweud y gwir ni ddylai'r proffesiwn orfod ymdopi â hyn."
Dywedodd fod cwynion i TikTok wedi eu derbyn mewn un o ddwy ffordd: "Un ai dim ateb o gwbl, neu ateb i ddweud nad yw'n torri rheolau TikTok, sy'n anghredadwy."
Yn dilyn trafodaethau gyda'r cwmni mae dal angen iddynt wneud mwy, meddai Ms Hughes: "Dydyn ni ddim angen geiriau pert, rydyn ni angen mwy o weithredu."
Dywedodd Gemma Morgan bod TikTok wedi cymryd "amser hir iawn" i gymryd y fideos i lawr.
Dywedodd Helen Jones eu bod nhw wedi derbyn "ymateb eithaf sydyn" gan TikTok, a bod y cwmni wedi cynnig cyngor defnyddiol i reolwr marchnata cyfryngau'r ysgol.
Ond ychwanegodd ei bod yn "ymwybodol iawn o'r diffyg brys mae ysgolion eraill wedi'i adrodd".
'Adnabod a dileu cynnwys'
Dywedodd llefarydd ar ran TikTok: "Rydyn ni'n gwbl glir nad oes unrhyw le ar gyfer casineb, bwlio, a cham-drin ar TikTok.
"Rydyn ni'n difaru'r gofid gafodd ei achosi i rai athrawon o ganlyniad i fideos creulon gafodd eu rhannu ar ein platfform."
Ychwanegodd y cwmni ei fod wedi cyflwyno mesurau technegol ychwanegol a chyngor, a'u bod yn parhau i "adnabod a dileu cynnwys a chyfrifon treisgar".
Dywedodd hefyd bod ganddo bartneriaeth â Llinell Gymorth Diogelwch Proffesiynol Ar-lein (POSH) er mwyn cynnig ffordd ychwanegol y gall athrawon gwyno am gynnwys, a'i fod wedi ysgrifennu at bob ysgol yn y DU i sicrhau fod gan bob un aelod o staff fynediad at yr adnoddau maen nhw eu hangen.
'Cwbl annerbyniol'
Dywedodd Neil Butler bod llythyr wedi cael ei yrru gan ysgrifennydd cyffredinol ei undeb at weinidog addysg pob gwlad yn y DU yn galw arnynt i weithredu.
"Dydw i ddim yn credu bod unrhyw lywodraeth yn gwneud digon ar hyn," meddai.
"Mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth o addysg yng Nghymru. Mae hyn yn dod yn broblem ddifrifol iawn, ac felly bydden i nawr yn hoffi gweld ymateb mwy cadarn ganddyn nhw ar hyn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n gwbl annerbyniol fod athrawon yn cael eu targedu gyda chamdriniaeth ar gyfryngau cymdeithasol."
Ychwanegodd eu bod wedi gofyn i TikTok ddileu unrhyw gynnwys anweddus neu dramgwyddus ar unwaith, a dweud wrth staff am adrodd unrhyw achosion yn uniongyrchol i TikTok a chysylltu â POSH.
Dywedodd Elinor Williams, Pennaeth Materion Rheoleiddiol Ofcom yng Nghymru, fod delio gyda'r problemau yma yn "flaenoriaeth"."Mae Ofcom wedi cael y dyletswydd a phwerau i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu rhag cynnwys niweidiol ar y llwyfannau rhannu fideo yma.
"Mae yn faes newydd. Fe gawson ni'r cyfrifioldeb yn Tachwedd 2020 ac ry'n ni 'di bod yn gweithio yn y flwyddyn ddiwetha' cyn cyhoeddi canllawiau dechrau Hydref eleni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Medi 2021
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2021