Cwpan y Byd yn 'gyfle i drafod' record hawliau dynol Qatar
- Cyhoeddwyd
Byddai Cymru'n defnyddio Cwpan y Byd fel "cyfle i drafod" record hawliau dynol Qatar pe bydden nhw'n cyrraedd yno, meddai pennaeth y gymdeithas bêl-droed.
Mae Cymru ddwy gêm o gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Mae sefydliad hawliau dynol Amnesty International yn honni fod ymfudwyr yn cael eu hecsbloetio yn Qatar wrth i'r wlad adeiladu stadiymau ar gyfer y bencampwriaeth.
Mae llywodraeth Qatar yn dweud ei bod yn cydnabod fod gwaith yn parhau ar ddatblygu ei systemau llafur.
Mae Denmarc wedi dweud y bydd yn rhoi "pwysau ychwanegol" ar FIFA dros eu pryderon am hawliau dynol cyn y bencampwriaeth, fydd yn dechrau fis Tachwedd 2022.
Mae chwaraewyr Norwy, Yr Iseldiroedd a'r Almaen wedi protestio am yr ecsbloetio honedig o ymfudwyr yn Qatar.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai chwaraewyr Cymru'n protestio, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney nad oedd wedi trafod y mater gyda'r chwaraewyr.
"Dydw i ddim wedi clywed unrhyw beth am hynny a bod yn onest - mae hynny lan i'r chwaraewyr," meddai wrth raglen Politics Wales.
Un o bryderon eraill cefnogwyr am gynnal Cwpan y Byd yn Qatar ydy ei bod yn anghyfreithlon i fod yn hoyw yno.
Pan ofynnwyd iddo beth fyddai ei gyngor i gefnogwyr LHDT+ Cymru fyddai eisiau mynd i gefnogi, dywedodd Mr Mooney y byddai'n eu hannog i fynd.
"Fe fyddwn ni'n gwneud yn siŵr y byddwn ni'n rhoi beth bynnag sydd ei angen mewn lle i amddiffyn pobl," meddai.
"Cyfle yw hyn. Yn hytrach na bod yn negyddol am y peth, ry'n ni'n ei weld fel cyfle i drafod, i roi ein barn ni iddyn nhw ar sut ddylai pobl gael eu trin."
Yn ymateb i sylwadau Amnesty International, dywedodd llywodraeth Qatar ei bod yn "gwrthod honiadau Amnesty nad ydy newidiadau i'n system llafur wedi arwain at newid gwirioneddol i gannoedd o filoedd o ymfudwyr sy'n gweithio yma".
"Pob blwyddyn mae mwy o gwmnïau yn cael eu dal i gyfrif am dorri'r gyfraith.
"Mae newidiadau systemig yn broses hirdymor ac mae newid ymddygiad pob cwmni yn cymryd amser.
"Nid ydy Qatar erioed wedi peidio â chydnabod fod y gwaith yn parhau ar ddatblygu ei systemau llafur."
Ar fater arall, dywedodd Mr Mooney ei fod yn gallu gweld sut y byddai "tensiwn" yn dilyn sylwadau cymysg am rôl Ryan Giggs gyda charfan Cymru ar hyn o bryd.
Bydd Giggs yn y llys fis Ionawr ar gyhuddiadau o achosi niwed corfforol, ymosod ac ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth. Mae'n gwadu'r cyhuddiadau.
Wedi iddo gael ei arestio y llynedd dywedodd CBDC na fyddai ganddo rôl gyda thîm Cymru am y tro.
Ond mae'r rheolwr presennol Robert Page wedi dweud fod Giggs "alwad ffôn i ffwrdd" ac y byddai'n "cael mewnbwn".
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn gweld fod dryswch ynghylch a oes gan Giggs rôl gyda'r garfan ai peidio, dywedodd Mr Mooney ei fod yn "gweld sut fyddai tensiwn yna".
Ond ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol fod Giggs wedi cael "unrhyw fewnbwn i unrhyw un o'n carfanau".
Mae cyn-reolwr tîm merched Cymru, Jayne Ludlow wedi galw am i'r menywod ennill yr un tâl â'r dynion am gynrychioli eu gwlad, fel sy'n digwydd yn Lloegr.
Dywedodd Mr Mooney y byddai CBDC yn "mynd yn agos iawn at hynny os nad yn gwbl gyfartal o ran tâl yn tua'r flwyddyn nesaf".
Ychwanegodd fod y gymdeithas wedi gwneud "cynnydd sylweddol" o ran tâl i dîm y merched a'u bod "nawr yn defnyddio'r un caeau, yr un hediadau siartredig, yr un cogyddion - mewn gwirionedd mae ganddyn nhw fwy o ofal".
Galw am fuddsoddi
Yn dilyn astudiaeth ddywedodd fod pêl-droed yn cyfrannu £550m at economi Cymru, mae CBDC wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi rhagor yn y gêm ar lawr gwlad.
Bydd arolwg o'r caeau sydd eu hangen yng Nghymru yn cael ei gynnal dros y misoedd nesaf.
Ond dywedodd Mr Mooney ei fod yn rhagweld y byddai'r cynllun yn costio "dros £100m".
Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld "cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad ar gyfleusterau ar lawr gwlad" yng nghyllideb ddrafft y llywodraeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021