Cais i ddisgyblion Y Bala gael prawf cyn gynted â phosib
- Cyhoeddwyd

Dywedodd pennaeth Ysgol Godre'r Berwyn fod achosion yr ysgol "yn uchel ar hyn o bryd"
Mae disgyblion ysgol yng Ngwynedd yn cael cais i gymryd prawf Covid cyn gynted â phosib oherwydd bod cyfradd achosion yr ardal mor uchel.
Mae pennaeth Ysgol Godre'r Berwyn yn Y Bala wedi ysgrifennu at rieni yn eu cynghori o'r canllawiau newydd.
Daw wedi i Gyngor Gwynedd apelio ar drigolion i gadw eu hunain yn ddiogel wrth i gyfraddau Covid yno gynyddu i'w lefel uchaf erioed.
Y Bala sydd ymysg yr ardaloedd ble mae'r gyfradd ar ei huchaf, ynghyd â Chaernarfon a Blaenau Ffestiniog.
Prawf PCR 'cyn gynted â phosibl'
Mewn ebost at rieni dywedodd y pennaeth, Bethan Emyr fod nifer yr achosion yn yr ysgol "yn uchel ar hyn o bryd".
Y cyngor i ddisgyblion ydy i gymryd prawf PCR cyn gynted â phosib ac eto mewn chwe diwrnod, a chymryd prawf llif unffordd yn ddyddiol am yr wythnos nesaf.
Maen nhw hefyd yn cael eu hannog i osgoi cyswllt gyda phobl eraill cymaint â phosib, osgoi mannau prysur, a pheidio ymweld â phobl fregus.
Ychwanegodd: "Bydd disgwyl i'r holl ddysgwyr uwchradd wisgo mwgwd ar y coridor ac yn y gwersi o ddydd Llun ymlaen.
"Rydym yn gobeithio mai mesur dros dro yw hwn, hyd nes bydd yr achosion Covid yn gostwng yn yr ysgol."

Mae pryder fod cyfraddau Covid yn uchel iawn yng Nghaernarfon a Blaenau Ffestiniog hefyd
Daw wedi i feddyg teulu sy'n byw yno ddweud ddydd Gwener fod brechiadau wedi cael eu cynnig "yn hwyr iawn" i bobl ifanc yr ardal.
Hefyd ddydd Gwener fe wnaeth Cyngor Gwynedd annog trigolion i "gymryd gofal arbennig i gadw eu hunain a phawb o'u cwmpas mor ddiogel â phosib".
Cafodd 884 o achosion Covid-19 eu cofnodi yng Ngwynedd yr wythnos ddiwethaf, ac mae'r gyfradd achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl bellach yn 709.7 - yr uchaf ers dechrau'r pandemig yno, a'r uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd.
'Pryderus iawn'
Dywedodd Dafydd Wyn Williams, cadeirydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Gwynedd: "Fel grŵp, rydym yn bryderus iawn am y cynnydd sylweddol mewn achosion yma yng Ngwynedd, ac yn benodol yn ardaloedd Caernarfon, Ffestiniog a Bala (Penllyn).
"Mae'r gyfradd Covid yn hynod uchel yn y cymunedau yma ac rydym yn annog pobl sy'n byw a gweithio yn yr ardaloedd yma i gymryd gofal arbennig.
"Mae ffigyrau Covid ar eu huchaf yng Ngwynedd ers cychwyn y pandemig, ac mae'n ymddangos fod y nifer o achosion yn debyg o gynyddu yn y dyddiau sydd i ddod.
"Gofynnwn i bobl helpu i ffrwyno'r duedd hon trwy fod yn wyliadwrus - gan ddilyn y camau o wisgo gorchudd wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus dan do ond hefyd i feddwl ddwywaith cyn iddyn nhw fynychu unrhyw ddigwyddiadau lle mae grwpiau mawr o bobl a chael prawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw symptomau."
Mae safleoedd profi PCR ar gael ar hyn o bryd ym Mangor, Caernarfon, Tremadog a Phwllheli yng Ngwynedd, ac ychydig tu allan i'r sir yng Nghorwen a Machynlleth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021