Dim newid ond cadw'r opsiwn o ymestyn y pàs Covid i dafarndai a bwytai

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Eluned Morgan: Pasys Covid yn 'ffordd bosib o gadw llefydd ar agor'

Gallai'r defnydd o basys Covid gael eu hymestyn i "helpu i gadw" tafarndai a bwytai ar agor dros gyfnod y Nadolig, meddai Llywodraeth Cymru.

Ond dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford na fyddai unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud ar gyflwyno'r pàs Covid i'r sector lletygarwch tan ddechrau mis Rhagfyr.

Gwnaeth Mr Drakeford y sylwadau wrth iddo gyhoeddi adolygiad 21 diwrnod diweddaraf y llywodraeth o reoliadau Covid.

Ni fydd unrhyw newidiadau i reolau'r coronafeirws yn ystod y tair wythnos nesaf yn dilyn yr adolygiad diweddaraf, meddai'r prif weinidog.

'Cadw'r opsiwn o ymestyn'

O ran lletygarwch, dywedodd Mr Drakeford y byddai'r llywodraeth yn "cadw'r opsiwn o ymestyn y defnydd o'r pàs Covid os bydd nifer yr achosion yn codi eto a'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd o ganlyniad i'r pandemig yn cynyddu".

"Byddwn ni'n parhau i fonitro'r sefyllfa o safbwynt iechyd y cyhoedd a byddwn ni'n gweithio gyda'r sector lletygarwch wrth inni baratoi ar gyfer y Nadolig," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogwyr wedi gorfod dangos pàs Covid er mwyn cael mynediad i gemau cyfres yr hydref yn Stadiwm Principality

Ond dywedodd Mr Drakeford y byddai Cymru ar hyn o bryd "yn parhau ar lefel rhybudd sero, sy'n golygu bod pob busnes yn gallu bod ar agor a masnachu, ac ni fydd y pàs Covid yn cael ei ymestyn chwaith i leoliadau lletygarwch yn ystod y cylch tair wythnos hwn".

Dywedodd y byddai gweinidogion yn gwneud "popeth y gallwn ni i gadw Cymru ar agor ac i ddiogelu Cymru" a chaniatáu i'r sector lletygarwch "allu masnachu yn ystod cyfnod prysur yr ŵyl".

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan fod pasys Covid yn "ffordd bosib" o gadw llefydd ar agor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid oes modd mynd i gêm bêl-droed gyda mwy na 10,000 o bobl heb bàs Covid

Mae pasys Covid yn cael eu defnyddio i ddangos a yw rhywun wedi cwblhau cwrs brechlyn neu wedi profi'n negyddol am Covid yn ystod y 48 awr ddiwethaf.

Mae eu hangen eisoes ar gyfer sinemâu, theatrau, clybiau nos a digwyddiadau mawr.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canfyddiadau ei hadolygiad nesaf ar 10 Rhagfyr.

'Osgoi cau lawr tafarndai'

Dywedodd y gweinidog iechyd nad oedd angen ymestyn pasys Covid nawr gan fod ffigyrau Covid wedi gostwng dros yr wythnosau ddiwethaf.

Pwysleisiodd bod y gyfradd heintio i bob 100,000 person dros gyfnod o saith diwrnod wedi disgyn o dros 700 ychydig wythnosau yn ôl i llai na 500 erbyn heddiw, a'i bod yn "diolch i'r cyhoedd" am hyn.

Ond dywedodd y byddai'r llywodraeth yn cadw llygad ar y sefyllfa: "Dydyn ni ddim eisiau sefyllfa lle 'yn ni'n cau lawr y tafarndai yn ddelfrydol dros y Nadolig".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Prif Weinidog y bydda'r Llywodraeth yn gwneud "popeth" yn eu gallu i ganiatáu i'r sector lletygarwch fasnachu dros y Nadolig

Byddai'r penderfyniad i ymestyn pasys Covid yn "dibynnu ar y raddau mae Covid yn amharu ar y GIG," meddai'r gweinidog.

Dywedodd bod y Llywodraeth eisoes yn gweithio gyda busnesau i drafod sut fyddai ymestyn pasys Covid i'r sector lletygarwch yn edrych.