Terfyn cyflymder ger Castell Gwrych wedi marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Sharn HughesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Sharn Iola Hughes mewn gwrthdrawiad ger Castell Gwrych fis Tachwedd 2020

Mae mesurau diogelwch wedi cael eu cyflwyno tu allan i'r castell ble bydd rhaglen I'm a Celebrity yn cael ei ffilmio eleni yn dilyn marwolaeth dynes yno y llynedd.

Cafodd Sharn Hughes, 58 o Brestatyn, ei tharo gan gar yn Llanddulas ger Castell Gwrych fis Tachwedd y llynedd tra'n tynnu lluniau.

Cyn i'r rhaglen ailddechrau ddydd Sul, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod cyfyngiadau cyflymder wedi'u rhoi mewn lle.

Ychwanegodd y llu y byddai unrhyw yrwyr sy'n parcio yno'n anghyfreithlon yn cael eu symud.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Castell Gwrych fydd cartref rhaglen I'm a Celebrity am yr ail waith eleni

Dywedodd y Prif Arolygydd Jon Aspinall: "Rydym yn canolbwyntio ar ddiogelwch defnyddwyr y ffyrdd, cerddwyr a'r cyhoedd, felly byddwch yn ymwybodol o'r cyfyngiadau a byddwch ddiogel.

"Mi fydd swyddogion yn patrolio'r ardal er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd ac rydym yn gweithio'n agos hefo cynhyrchwyr y rhaglen, Cyngor Sir Conwy a phartneriaid er mwyn cyflawni hyn."

Ychwanegodd y llu y bydd uned plismona'r ffyrdd a Gan Bwyll yn yr ardal er mwyn sicrhau fod modurwyr yn cadw at y terfynau cyflymder.

Bu farw Ms Hughes wedi iddi gael ei tharo gan gar ar ôl penderfynu stopio ar ardal dywyll o'r A547, ble roedd terfyn cyflymder o 60mya.

Clywodd y cwest i'w marwolaeth mai ei bwriad oedd tynnu llun o'r castell er mwyn ei yrru at ffrind.