Gwrthod cynllun parc gwyliau £60m ger Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
Maybrook InvestmentsFfynhonnell y llun, Dewis
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o brif adeilad y datblygiad - safle hen ffatri Ferodo

Mae Cyngor Gwynedd wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i gynllun enfawr i greu parc hamdden ar hen safle Ferodo ger Caernarfon.

Aeth argymhelliad i wrthod y cynllun o flaen pwyllgor cynllunio'r cyngor ddydd Llun.

Roedd Maybrook Investments am wario £60m yn trawsnewid hen safle ffatri Ferodo yn ddatblygiad hamdden.

Roedd Maybrook, o Gaerwrangon, yn gwadu y byddai'r datblygiad yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg, gan honni y byddai'r datblygiad yn hwb enfawr i'r economi yn lleol.

Cyn y penderfyniad, dywedodd llefarydd ar ran y datblygwyr petai'r cynllun yn cael ei wrthod y byddan nhw'n ystyried apelio neu o bosib yn symud y cynllun i ardal Caer gan fod gan y datblygwr safle posib yno hefyd.

Fe fyddai'r datblygwyr wedi codi 173 o fythynnod gwyliau yno, 51 o fflatiau ac mae unedau gwaith yn rhan o'r cynllun hefyd.

Y cynllun oedd i greu 80 o swyddi yn y parc hamdden a channoedd yn ychwanegol yn yr unedau busnes fyddai'n cael eu creu.

Roedd y cynlluniau hefyd yn cynnwys Plas Brereton gerllaw, fyddai wedi cael ei drawsnewid yn bedair uned gwyliau.

Cais yn 'ddiffygiol'

Penderfynodd y pwyllgor cynllunio i wrthod y cais er eu bod yn cydymdeimlo gyda'r angen i ddatblygu'r safle segur a'r angen i greu swyddi.

Roedd wyth cynghorydd wedi pleidleisio i wrthod y cais, tra bod tri o blaid ei gymeradwyo.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Churchman, a bleidleisiodd i wrthod y cais, ei fod yn bwysig "anfon neges glir" nad oedd Gwynedd yn erbyn datblygu'n gyffredinol, ond mai nid "y cynllun gwallus yma oedd y cais cywir fel mae'n sefyll rwan".

Dywedodd un arall a wrthododd y cynllun, y Cynghorydd Huw Wyn Jones, bod y cais yn "ddiffygiol ym mhob ffordd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys Davies y byddai'r datblygiadau yn creu llawer o swyddi i Gymry Cymraeg lleol

Cyn penderfyniad y cyngor, dywedodd llefarydd ar ran y datblygwyr, Rhys Davies o gwmni Cadnant Planning: "Fel rhan o'r datblygiad yma hefyd mae 'na 120,000 o droedfeddi sgwâr o unedau diwydiannol yn cael eu creu ar safle Ferodo.

"Felly mae'n barc dŵr, mae'n safle hamdden ac mae 'na unedau gwyliau, ond mae o yn ddatblygiad diwydiannol sylweddol hefyd."

Roedd yna gryn bryderon gan rai am beth fyddai effaith y cynlluniau ar y tirlun, a hefyd ar yr iaith Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Robat Idris yn ofni y byddai'r datblygiad yn arwain at fwy o bobl eisiau symud i'r ardal

Dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith: "Mae twristiaeth yn mynd yn boen ac yn fwrn ar ein hardaloedd Cymreig ni, ac yn sicr tu allan i Gaernarfon - y dref Gymreiciaf yng Nghymru - mae hwn yn llawer iawn yn rhy fawr ac anghytbwys ar gyfer anghenion yr ardal.

"Wrth gwrs mae 'na effaith yn mynd i fod ar yr iaith Gymraeg pan 'da chi'n cael tomen o bobl yn symud i mewn, achos be' sy'n dueddol o ddigwydd ydy fod hyn, os rhywbeth, yn mynd i hybu mwy o bobl isio symud i'r ardal."

Ond roedd Rhys Davies yn gwadu'n bendant y byddai'r cynlluniau yn cael effaith negyddol ar y tirlun a'r Gymraeg.

Dywedodd y byddai'r datblygiadau yn creu llawer o swyddi i Gymry Cymraeg lleol, gan alluogi iddyn nhw aros yn eu hardaloedd.

Gwrthod caniatâd oedd yr argymhelliad o flaen y pwyllgor cynllunio.

Pynciau cysylltiedig