Cyfres yr Hydref: Merched Cymru 7-24 Merched Canada
- Cyhoeddwyd
Er i Gymru berfformio'n dda yn hanner cyntaf gêm derfynol Cyfres yr Hydref yn erbyn Canada, yr ymwelwyr oedd yn fuddugol yn dilyn perfformiad cryf tu hwnt yn yr ail hanner.
Cymru oedd ar y blaen yn yr hanner cyntaf gyda Carys Phillips yn sgorio'r unig gais i'r cochion a chapten Canada'n gorfod gadael y cae ar ôl cael carden goch am dacl uchel.
Ond dominyddodd Canada pob agwedd o'r gêm yn yr ail hanner, yn sgorio pedwar cais a'n sicrhau'r fuddugoliaeth.
Er fe fydd Cymru'n siomedig gyda'r canlyniad, mae eu buddugoliaethau yn erbyn De Affrica a Japan yng ngemau blaenorol Cyfres yr Hydref yn golygu bod yr ymgyrch wedi bod yn un positif ar y cyfan.
Dominyddodd Cymru'r hanner cyntaf trwy'r sgarmes a llwyddon nhw i fanteisio ar nifer o droseddau gan Ganada.
Arweiniodd y troseddau at Tyson Beukeboom o Ganada'n cael carden felen, a dilynwyd gan Phillips yn rhedeg gyda'r bêl o ben lein a'n tirio hi ar ôl i Gymru gael cic gosb, yn rhoi Cymru ar y blaen.
Llwyddodd Elinor Snowsill i drosi, yn gwneud y sgôr yn 7-0 i Gymru.
Yna cafodd gapten Canada Olivia DeMerchant garden goch yn dilyn tacl uchel ar Bethan Lewis, ac roedd yn edrych fel y gall Cymru guro trydydd tîm gorau'r byd.
Ond profodd yr ail hanner yn anodd tu hwnt i'r cochion.
Roedd gan Ganada'r rhan fwyaf o'r meddiant trwy gydol yr hanner.
Cawson nhw gais wedi ei wrthod chwe munud mewn i'r ail hanner, ond fe barhaon nhw i frwydro ymlaen, yn treulio llawer o amser ger llinell gais Cymru.
Arweiniodd y pwysau yn y pendraw at bedwar cais i'r ymwelwyr.
Daeth y cyntaf o Courtney Holtkamp 52 munud mewn, yn gwneud y sgôr yn 7-5 i Gymru gyda hanner awr i fynd.
Yna cafodd Carys Phillips carden felen am fod ar ochr anghywir y ryc, yn gadael 14 chwaraewr yr un ar y cae i'r ddau dîm.
Fe barhaodd Canada i ymosod, yn herio ffitrwydd tîm Cymru.
Cafodd Canada gic gosb ar ôl i Gymru gamsefyll, ac arweiniodd hon at gais arall i Ganada gan DeLeaka Menin.
Dilynwyd gan ddau gais arall i Ganada, y trydydd gan Sabrina Poulin a'r pedwerydd gan seren y gêm Pamphinette Buisa, yn dod a'r sgôr i 7-24 erbyn diwedd y gêm.
Er i'r gêm fod yn un anodd, mae perfformiad Cymru yn ystod Cyfres yr Hydref - yn dilyn eu buddugoliaethau blaenorol yn erbyn De Affrica a Japan - yn golygu bod eu hymgyrch wedi bod yn un positif ar y cyfan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2021