Dros 2,000 wedi marw o fewn mis o ddal Covid mewn ysbyty
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth mwy na 2,000 o bobl oedd yn debygol o fod wedi dal Covid mewn ysbytai yng Nghymru farw o fewn 28 diwrnod o gael eu heintio.
Yn ôl data swyddogol mae dros 8,243 achos o heintio mewn ysbytai wedi bod yng Nghymru, lle mae claf yn debygol neu'n sicr o fod wedi dal Covid yn yr ysbyty ar ôl mynd yno am reswm gwahanol.
Bu farw 27% (2,216) ohonynt o fewn mis, ond nid o reidrwydd oherwydd coronafeirws.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y GIG wedi "gweithio'n galed i sicrhau bod pobl sy'n mynd i'r ysbyty wedi eu diogelu rhag Covid-19".
Fis diwethaf cafodd diweddariad ei gyflwyno i bwyllgor gwyddonol ymgynghorol SAGE am achosion o heintio mewn ysbytai, ac fe gafodd "pwyslais o'r newydd" ar fesurau i reoli Covid mewn ysbytai ei argymell.
Yn ôl cofnodion y cyfarfod, dolen allanol, fe wnaeth SAGE "nodi pwysigrwydd profi gweithwyr iechyd ar hyd y GIG a'r sector gofal yn barhaol, a ffocws parhaus ar ddefnydd awyru a gorchuddion wyneb".
Mae'r data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gafodd ei gyflwyno i BBC Cymru, hefyd yn dangos bod y gyfradd marwolaethau ymysg cleifion gafodd eu heintio yn yr ysbyty wedi lleihau wrth i'r pandemig fynd yn ei flaen.
Yn ystod y don gyntaf (hyd at 31 Gorffennaf 2020), bu farw 33% o bobl oedd yn debygol neu'n sicr o fod wedi dal Covid yn yr ysbyty o fewn 28 diwrnod o brawf positif.
Yn ystod yr ail don (Awst 2020 - Ebrill 2021) cwympodd y ffigwr hynny i 27%, ac yn y trydedd don (ers mis Mai) y ffigwr yw 14%.
Nid yw'r data'n dangos faint o'r marwolaethau hyn gafodd eu hachosi'n bennaf gan y feirws, mewn sawl un ohonynt oedd Covid yn ffactor gwaethygol, neu faint gafodd eu hachosi gan ffactorau eraill.
Caiff pobl eu diffinio fel bod yn "debygol" o fod wedi dal Covid yn yr ysbyty os ydynt yn profi'n bositif rhwng diwrnod wyth a diwrnod 14 yn yr ysbyty, ac yn "sicr" os yw'r prawf yn dod ar ôl diwrnod 14.
'Anodd dadansoddi'r data'
Dywedodd Tom Lawton, ymgynghorydd gofal dwys ac aelod o grŵp ymgyrchu Awyr Iach GIG, bod achosion o heintio o fewn ysbytai yn "broblem fawr" ond mae'n anodd i ddod i gasgliad ar faint o gleifion fyddai wedi goroesi pe na bydden nhw wedi dal yr haint yn yr ysbyty.
"Yn amlwg mae'n bryderus bod niferoedd uchel o bobl yn dal Covid mewn ysbytai'r GIG ac yn marw o unrhyw achos.
"Mae'n anodd iawn i ddadansoddi'r data - yn anffodus mae rhain yn bobl sydd yn yr ysbyty am reswm arall, a bydd y rheswm arall hyn yn aml yn rywbeth fyddai wedi arwain at eu marwolaeth yn y lle cyntaf.
"Dwi'n credu ein bod ni i gyd yn gallu cytuno na fydd dal Covid yn yr ysbyty yn dda i chi, ac mae'n sicr yn rhywbeth i'w osgoi, ond mi fyswn i'n araf i benodi niferoedd o ran y marwolaethau cynamserol o ganlyniad i heintio yn yr ysbyty - ond nid sero yw'r rhif hyn."
Mae dros 1,000 o gleifion yn debygol neu'n sicr o fod wedi dal Covid mewn ysbytai yng Nghymru ers dechrau mis Awst.
Ychwanegodd Dr Lawton wrth i ni "ddysgu i fyw gyda Covid" y gallai ysbytai droi'n "yrwyr heintio" wrth i gyfraddau yn y gymdeithas leihau.
Pwysleisiodd bwysigrwydd profi cynnar, gwahanu cleifion a "derbyn fod hon yn haint sy'n cael ei chludo trwy'r awyr".
"Mewn ysbytai mae gennyn ni andros o lot o bobl bregus iawn mewn un lle, a'r rheiny, wrth i ni gynyddu imiwnedd, bydd y bobl sydd fwyaf agored i Covid a dyna beth y ddylen ni wir ganolbwyntio arno."
Ym mis Tachwedd fe wnaeth ymchwil BBC Cymru ddarganfod nad oedd rhai staff y GIG yng Nghymru ddim yn cael eu profi'n rheolaidd am Covid tan yn agos at ddiwedd yr ail don.
'Mesurau heb atal marwolaethau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r coronafeirws yn feirws trosglwyddadwy tu hwnt, yn enwedig mewn lleoliadau caeëdig fel ysbytai. Cymru yw'r unig rhan o'r DU sydd yn casglu a chofnodi'r holl achosion o heintio mewn ysbytai, gan ddefnyddio system o'r enw ICNET.
"Mae'n GIG wedi gweithio'n galed i sicrhau bod pobl sy'n mynd i'r ysbyty wedi eu diogelu rhag Covid-19, ond er gwaethaf cyflwyno mesurau cadarn i reoli heintio a system profi llym, yn anffodus dydy hyn heb atal rhai rhag ddal Covid-19 tra yn yr ysbyty, ac yn anffodus mae rhai wedi marw.
"Mae GIG Cymru wedi dilyn canllawiau atal a rheoli heintio'r DU sydd wedi cael eu diweddaru'n rheolaidd wrth i ni ddysgu mwy am y coronafeirws a sut mae'n lledaenu, gan gynnwys sut mae pobl yn gallu lledaenu'r feirws heb ddangos unrhyw symptomau.
"Mae cyngor hefyd wedi cael ei gyflwyno i'r GIG a'i ddiweddaru'n rheolaidd ar ymbellhau cymdeithasol, gwasgaru gwlâu, profi staff a chleifion a gwisgo gorchuddion wyneb.
"Mae nifer o ymchwiliadau wedi cael eu cymryd gan fyrddau iechyd, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymraeg a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
"Mae'r GIG yn parhau i ddarparu gwasanaethau i gleifion gyda Covid-19 yn ogystal â'r rheiny sydd angen mynediad at wasanaethau allweddol eraill.
"Mae byrddau iechyd wedi creu ardaloedd ar wahân mewn ysbytai i helpu diogelu cleifion a staff ac i sicrhau bod y gwagle mor ddiogel a sy'n bosib."
Bydd y stori i'w gweld yn llawn ar Wales Live ar BBC1 Cymru am 22:30 nos Fercher
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021