Tai yn colli pŵer a threnau wedi'u canslo yn sgil Storm Arwen
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth dros 30,000 o dai yng Nghymru golli cyflenwad trydan dros nos wrth i wyntoedd cryfion a thywydd garw Storm Arwen achosi trafferthion.
Dywedodd Western Power fod 13,000 o gwsmeriaid ar draws y de a'r gorllewin wedi colli pŵer ar un adeg, gyda'r ffigwr hwnnw lawr i 5,000 erbyn nos Sadwrn.
Roedd yr un peth yn wir am gwsmeriaid SP Energy yn y canolbarth a'r gogledd, gyda 22,000 yn parhau i fod heb bŵer brynhawn Sadwrn.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod y difrod wedi achosi iddyn nhw ganslo pob gwasanaeth trên erbyn bore Sadwrn, gyda choed a malurion eraill wedi gwneud "difrod sylweddol" i linellau.
Mae Avanti West Coast hefyd wedi canslo gwasanaethau rhwng gogledd Cymru a Crewe a Llundain oherwydd difrod yn ymwneud â'r tywydd.
Ffyrdd ar gau
"Mae nifer o ffyrdd hefyd wedi eu rhwystro neu eu cau oherwydd coed sydd wedi disgyn, a sbwriel yn hedfan, gan olygu bod trafnidiaeth amgen hefyd yn anodd," meddai llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod yn gweithio gyda Network Rail i adfer y rhwydwaith "mor fuan â phosib", gyda rhai trenau lleol yn ardal Caerdydd bellach yn rhedeg eto, ond y dylai pobl osgoi teithio yn y cyfamser.
Mae difrod sylweddol hefyd wedi'i wneud i nifer o adeiladau, gydag adroddiadau o doeau yn cael eu chwythu i ffwrdd, a choed yn disgyn ar dai.
Yng Nghanolfan Brailsford ym Mangor, cafodd dôm chwaraeon sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer meysydd pêl-rwyd a chyrtiau tenis ei chwalu'n llwyr gan y gwyntoedd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn datganiad ar Twitter dywedodd Chwaraeon Bangor Sport fod y ganolfan wedi dioddef "difrod catastroffig" dros nos ac y byddai ar gau "am y dyfodol rhagweladwy".
Cafodd un ddynes ddihangfa lwcus wedi i goeden ddisgyn ar fyrddau tu allan i dafarn tra'i bod hi wedi cymryd saib i ysmygu.
Fe gamodd Cheryl Pound tu allan am hoe wedi iddi gau tafarn The Star ym Mhen-y-bont, ac fe ddisgynnodd y goeden fodfeddi oddi wrthi.
Ar y pryd, roedd yr orsaf dywydd agosaf yn cofnodi gwyntoedd dros 50mya.
Fe wnaeth coeden hefyd ddisgyn ar garafán mewn parc gwyliau ger Llyn Efyrnwy ym Mhowys, ond er bod pob yn y cerbyd ar y pryd chawson nhw mo'u hanafu.
Dywedodd Betsi Cadwaladr fod y tywydd hefyd yn golygu fod yn rhaid cau canolfannau profi Covid ym Mhwllheli, Corwen, Llangefni, Abergele a Chaernarfon.
Mae nifer o ffyrdd ar draws Cymru wedi bod ar gau yn ystod y dydd, yn ogystal â phontydd fel yr hen Bont Hafren ar yr M48, Pont Sir y Fflint ar yr A548 ger Cei Connah, a'r A55 ar Bont Britannia i Ynys Môn.
Mae Stena Line wedi canslo'u holl longau rhwng Abergwaun a Rosslare, tra bod Irish Ferries wedi canslo'u holl longau rhwng Doc Penfro a Rosslare, yn ogystal â rhai o'r teithiau rhwng Caergybi a Dulyn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd gwyntoedd cyson o dros 50mya eu cofnodi, gan godi i hyd at 81mya dros nos yn Aberporth, Ceredigion, a 76mya yn Aberdaron, Pen Llŷn.
Daeth hynny yn dilyn rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws Cymru ddydd Gwener, a rhybudd oren am wyntoedd cryfion ar gyfer y gogledd a'r gorllewin fore Sadwrn.
Dywedodd Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hyrddiadau gyrraedd 60-70mya mewn nifer o fannau arfordirol, a dros 70mya mewn rhai mannau.
Yn ogystal a rhybudd am gyflenwadau trydan ac amhariad i systemau trafnidiaeth, fe ychwanegon nhw y dylai pobl fod yn ofalus rhag tonnau mawr allai achosi perygl i fywydau, ac i ffyrdd ac adeiladau arfordirol.
Dywedodd gwylwyr y glannau y byddai mynd yn agos i'r arfordir yn gallu bod yn "beryglus", gan ofyn i bobl fod yn ofalus ger clogwyni a glan y môr.
Bu'n rhaid i achubwyr o Gei Newydd a'r Bermo fynd i roi cymorth mewn digwyddiad ddydd Gwener gyda chwch oedd yn hyfforddi i groesi Môr Iwerydd, ac fe gafodd un person eu hachub gan hofrennydd gwylwyr y glannau yn dilyn anaf i'r pen.
Ychwanegodd gwylwyr y glannau yng Nghaergybi bod nifer o gychod yn aber Afon Conwy wedi dod yn rhydd o'u hangorau dros nos ac wedi dioddef difrod, ond does neb wedi eu hanafu.
Mewn neges ar Facebook, dywedodd canolfan achub cŵn yn Llanelli eu bod wedi dioddef "miloedd o bunnoedd" o ddifrod wedi i do metel gael ei rwygo oddi ar y to.
Fe wnaeth Many Tears Animal Rescue hefyd golli eu cyflenwad trydan, wnaeth arwain at farwolaeth un o'r cŵn bach newydd anedig.
"Roeddwn i'n arfer byw yn Arizona, gaethon ni lifogydd a monsŵns yn fanno, ond dwi erioed wedi gweld rhywbeth mor wael â hyn," meddai'r perchennog Sylvia van Atten.
Am y tro cyntaf yn ei hanes, fe benderfynodd cynhyrchwyr y rhaglen deledu I'm A Celebrity ... Get Me Out Of Here! i beidio â darlledu'n fyw nos Wener oherwydd y tywydd garw.
Dywedodd ITV bod y cyflwynwyr Ant a Dec yn recordio'u cyfraniadau rhag blaen yn hytrach nag yn fyw yn ystod y rhaglen.
Ychwanegodd y sianel bod "ein henwogion yn aros oddi mewn i'r castell, sydd yn ddiogel, ac mae gyda ni fesurau wrth gefn yn achos pob posibilrwydd o ran y tywydd i sicrhau diogelwch ein cast a chriw".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2021