Sioeau Nadolig ysgolion i barhau ar-lein am eleni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sioe NadoligFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mwyafrif o siroedd yn cynghori yn erbyn perfformio sioeau o flaen cynulleidfa o rieni eleni

Fe fydd mwyafrif cyngherddau a sioeau Nadolig yn digwydd ar-lein eleni eto, wrth i Covid-19 barhau i darfu ar weithgareddau ysgolion.

Mae sawl awdurdod lleol wedi cynghori penaethiaid i beidio â gwahodd rhieni i'r safle oherwydd pryderon am ledu'r feirws.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar sail amgylchiadau lleol.

Ychwanegodd na fyddai dod â'r tymor i ben yn gynnar fel llynedd yn gam "addas".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hefin Evans, pennaeth Cerdd Ysgol Tryfan, yn credu bod peidio cael cyngerdd yn y gymuned yn benderfyniad call

Llynedd roedd cyngerdd Nadolig Ysgol Tryfan ym Mangor ar Zoom, ac er na fydd 'na gynulleidfa yn yr ysgol eleni maen nhw'n dod at ei gilydd i berfformio.

Wrthi'n arwain ymarfer y band pres mae Hefin Evans, pennaeth Cerdd yr ysgol, sy'n credu bod peidio cael cyngerdd yn y gymuned yn benderfyniad call.

"Yn hytrach na chael pawb yn eu sgwariau bach - fel sy' 'di bod flwyddyn diwetha' - 'da ni'n cael pawb at ei gilydd, ond 'da ni'n recordio'r eitemau yma yn yr ysgol ac wedyn ei roi allan ar y gwefannau cymdeithasol ac mewn gwahanol ffyrdd i bawb wedyn i'w gweld," meddai.

"Mae'r ochr gymdeithasol yr un mor bwysig â'r ochr gerddorol, a dyna be' maen nhw'n ei fwynhau - bod efo'i gilydd mwy."

'Edrych ymlaen gymaint at Dolig'

Mae Sion yn chwarae'r cornet, a'n credu bod y profiad "lot gwell na blwyddyn diwetha'".

"Mae jyst yn well cael gweld ffrindiau fi," meddai.

"O'n i ychydig bach yn ofn ar y dechrau i chwarae efo pawb oherwydd Covid," meddai Fflur, sy'n chwarae'r corn tenor, "ond ers i fi arfer dwi 'di bod lot fwy hyderus efo fo a dwi 'di arfer efo fo lot mwy rŵan."

"Dwi'n rili hoffi cael chwarae darnau Dolig rŵan achos mae'n gwneud i fi edrych ymlaen gymaint at Dolig."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sion fod y profiad eleni "lot gwell na blwyddyn diwetha'"

Yn ystod yr wythnos ddiweddaraf roedd 2,687 o achosion ymhlith staff ysgolion a disgyblion yng Nghymru, ond mae'r niferoedd wedi gostwng ers mis Hydref.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, bod penderfyniadau ysgolion am weithgareddau'r Nadolig yn seiliedig ar fframwaith i adlewyrchu amgylchiadau lleol.

Llynedd, daeth tymor yr ysgol i ben yn gynnar cyn y Nadolig oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion Covid.

"Un o'r blaenoriaethau sydd wedi bod gyda ni ers y cychwyn cynta' yw sicrhau bod plant yn gallu bod yn yr ysgol yn dysgu gyda'u ffrindiau a'u hathrawon gymaint gallwn ni wyneb yn wyneb," meddai Jeremy Miles.

Galw am gau ysgolion ynghynt

Mewn rhai ardaloedd o Gymru, gan gynnwys siroedd y gogledd, mae'r tymor eleni yn dod i ben mor hwyr â 22 Rhagfyr, ac mae yna alw wedi bod i orffen yn gynt.

Un o'r rheiny sydd wedi galw am hynny ydy'r meddyg teulu o Nefyn, Dr Eilir Hughes, sydd eisiau lleihau'r risg fod plant yn heintio perthnasau dros y gwyliau.

"Y rheswm mwyaf amlwg [dros gau yn gynt] yw ei fod yn helpu i atal 'chwaneg o heintiadau ddigwydd ymysg y plant yn ystod y wythnos olaf sy'n arwain at y Nadolig - llai o gymysgu, llai o heintiadau.

"Mae cyfnod y Nadolig yn bwysig i blant, eu teuluoedd a'u hathrawon.

"Mae'n bwysig i ni i gyd, yn enwedig yn dilyn siom y llynedd, felly mae cael cau'n gynt yn rhoi'r cyfle gorau i bobl gael mwynhau'r Nadolig yn rhydd o haint, a threulio amser gyda'i gilydd yn fwy diogel."

Disgrifiad,

Dr Eilir Hughes: Cau ysgolion yn gynt "i gael Nadolig rhydd o Covid"

Ond dywedodd Mr Miles nad yw'n teimlo mai cau ysgolion yn gynnar yw'r ateb.

"Ry'n ni ar alert lefel zero - dwi ddim yn gweld taw dyna'r cam iawn i gymryd ond wrth gwrs ry'n ni'n cadw y lefel trosglwyddiant a'r camau wrth ymateb o dan drosolwg cyson," meddai.

Beth sy'n digwydd ledled Cymru?

Dywedodd cyngor Ynys Môn bod gofyn i ysgolion "ystyried yn ofalus yr angen i gynnal unrhyw ddigwyddiad cyhoeddus ar hyn o bryd".

Yn ôl cyngor Blaenau Gwent nid yw digwyddiad arferol mewn neuadd gyda chynulleidfa yn ddoeth "ac ni fydd y cyngor yn ei gefnogi eleni".

Mae cyngor Merthyr Tudful hefyd wedi cynghori yn erbyn cyngherddau Nadolig gyda rhieni yn bresennol.

Dywedodd awdurdodau Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Ddinbych, Ceredigion, Casnewydd, Conwy, Gwynedd, Sir Benfro a Chaerffili ei fod yn fater i ysgolion unigol ar sail asesiadau risg.

Penderfyniad ysgolion yw hi yn Nhorfaen hefyd.

Yn Sir Gaerfyrddin penaethiaid sydd â'r penderfyniad terfynol, ond dywedodd y cyngor eu bod wedi eu "hannog yn gryf i beidio â gwahodd rhieni i safleoedd ysgol gan nad oes gan y rhan fwyaf o ysgolion ddigon o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol".

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gofyn i ysgolion "ystyried a yw'n briodol cael digwyddiadau cyhoeddus mawr ar adeg pan fo Covid-19 yn dal i fod yn gyffredin mewn cymunedau", tra dywedodd Powys na ddylai rhieni fynychu digwyddiadau yn yr ysgol.

Annog dulliau gofalus mae Rhondda Cynon Taf ac yng nghanllaw Bro Morgannwg mae'n dweud "nid yw'n ddoeth cael rhieni/gofalwyr i fynd i mewn i adeilad yr ysgol ar gyfer cyngerdd neu weithgaredd Nadolig ysgol" ond byddai digwyddiad awyr agored yn peri risg is.

Doedd dim manylion ar gyfer Caerdydd, Abertawe, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.